Trosolwg o'r Cwrs
Bydd y radd gymhwyso hon yn y Gyfraith yn cyfuno’r Gyfraith a Throseddeg, gan roi’r cyfle i chi gyfuno diddordeb mewn troseddeg a pholisi troseddol gan roi sylw helaeth i’r gyfraith yng Nghymru a Lloegr.
Lluniwyd y rhaglen i gynnwys pynciau sylfaenol ym mhob disgyblaeth yn y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn, gan roi dewis eang i chi o ran astudio dewisol yn y flwyddyn olaf.
Byddwch yn datblygu gwybodaeth sylfaenol gynhwysfawr yn y meysydd mae’r radd cymhwyso yn y Gyfraith yn eu cynnwys, sef Cyfraith Contractau, y Gyfraith Droseddol, Cyfraith Tir, Ecwiti ac Ymddiriedaethau, Cyfraith yr UE, Cyfraith Camwedd a’r Gyfraith Gyhoeddus.
Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn astudio cysyniadau craidd maes troseddeg, damcaniaethau pwysicaf troseddu a gwyrni a’u perthnasedd â pholisi troseddol, ymchwil ac ymarfer troseddol.
Trwy gydol eich gradd israddedig yn Y Gyfraith gyda Throseddeg, byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil a dadansoddi ardderchog a’r gallu i gyfleu eich syniadau’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Mae pob un o'n rhaglenni israddedig yn y Gyfraith wedi'i chydnabod gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr fel Graddau Cymhwysol yn y Gyfraith ar gyfer y rhai sy'n dechrau astudio yn 2021. Mae ein rhaglenni hefyd yn cynnwys y pynciau craidd y mae ar Fwrdd Safonau'r Bar eu hangen er mwyn bodloni cyfnod academaidd y hyfforddiant proffesiynol ar gyfer y rhai sy'n dymuno bod yn fargyfreithiwr. Mae ein rhaglenni'n darparu sylfaen gref i fyfyrwyr a allai ddymuno sefyll Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) yn y dyfodol.