Sgip i brif cynnwys Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
Menu Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
  1. Hafan
  2. Israddedig
  3. Cyrsiau Israddedig
  4. Cyrsiau Israddedig Peirianneg
  5. Peirianneg Feddygol
  6. Peirianneg Feddygol, BEng
  • Astudio
    • Mynediad mis Ionawr 2021
      Student Life

      100 o gyrsiau israddedig ar gael.

      Dysgwch mwy
    • Israddedig
      • Cyrsiau
      • Llety
      • Diwrnodau Agored
      • Sut i wneud cais
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Rhieni a Gwarcheidwaid
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Clirio ym Abertawe
    • Ôl-raddedig
      • Cyrsiau
      • Rhaglenni Ymchwil
      • Diwrnod Agored
      • Sut i Wneud Cais
      • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
      • Y Brifysgol
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
    • Bywyd Myfyriwr
      • Astudio
      • Pam Abertawe
      • Bywyd y campws
      • Chwaraeon
      • Cynaliadwyedd - Cymrwch Ran
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
      • Taith Rhithwir
      • Beth yw Pythefnos y Glas?
    • Gwasanaethau i Fyfyrwyr
      • Llyfrgelloedd ac Archifau
      • BywydCampws
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
      • Menter Myfyrwyr
      • Canolfan Llwyddiant Academaidd
      • Academi Hywel Teifi
      • Llesiant myfyrwyr
  • Rhyngwladol
  • Ymchwil
  • Busnes
  • Cyn-fyfyrwyr
  • Y Brifysgol
    • Swyddfa'r Wasg
      Female student working with steel

      Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon

      Darllenwch y newyddion diweddaraf yma
    • Y Brifysgol
      • Amdanom ni
      • Sut i ddod o hyd i ni
      • Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
      • Canmlwyddiant 2020
      • Swyddfa'r Wasg
      • Swyddi a Gweithio yn Abertawe
      • Cynaliadwyedd
      • Teithio i’r campws ac oddi yno
      • Cysylltu â ni
    • Chwaraeon
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Iechyd a Ffitrwydd
      • Perfformiad ac Ysgoloriaethau
      • Chwaraeon i fyfyrwyr - Chwaraeon Myfyriwr
      • Rhaglenni a Digwyddiadau
    • Bywyd y campws
      • Llety
      • Llefydd i Fwyta ar Gampws
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Y Neuadd Fawr
      • Taliesin
      • Creu Taliesin
      • Ein Tiroedd
      • Cerddoriaeth
      • Rhithdaith
    • Colegau Academaidd
      • Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau
      • Coleg Peirianneg
      • Gwyddorau Dynol ac Iechyd
      • Ysgol y Gyfraith
      • Yr Ysgol Reolaeth
      • Ysgol Feddygaeth
      • Y Coleg Gwyddoniaeth
      • Y Coleg
    • Academïau
      • Academi Iechyd a Llesiant
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
      • Academi Hywel Teifi
      • Academi Cynwysoldeb a Llwyddiant Dysgwyr Abertawe (SAILS)
  • Newyddion a Digwyddiadau
  • Cefnogaeth a Lles
  1. Hafan
  2. Israddedig
  3. Cyrsiau Israddedig
  4. Cyrsiau Israddedig Peirianneg
  5. Peirianneg Feddygol
  6. Peirianneg Feddygol, BEng

Peirianneg Feddygol , BEng (Hons)

Tudalennau cysylltiedig
  • Colegau Academaidd
  • Cyrsiau Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Coleg Y Celfyddydau a'r Dyniaethau
    • Cyrsiau Israddedig Peirianneg
      • Peirianneg Awyrofod
      • Peirianneg Gemegol
      • Peirianneg Sifil
      • Peirianneg Drydanol Ac Electronig
      • Peirianneg Defnyddiau
      • Peirianneg Fecanyddol
      • Peirianneg Feddygol
        • Peirianneg Feddygol, BEng
        • Peirianneg Feddygol, MEng
        • Peirianneg Feddygol gyda Blwyddyn Sylfaen, BEng
      • Blwyddyn Sylfaen
      • Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, BSc
      • BEng Peirianneg
    • Cyrsiau Israddedig Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd
    • Cyrsiau Israddedig y Gyfraith
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Meddygaeth Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Y Coleg Gwyddoniaeth
    • Cyrsiau Is-raddedig yn dod yn fuan!
    • Gofynion mynediad
  • Cysylltu â'r tîm derbyn israddedig
  • Diwrnodau Agored Israddedig
  • Llety
  • Sut i wneud cais am gwrs israddedig
  • Chwaraeon
  • Bywyd Myfyriwr
  • Ffioedd a Chyllid
  • Gwnewch Gais am 2021
  • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
  • Rhithdaith
  • Gwybodaeth i Rieni a Gwarcheidwaid
  • Prosbectws Israddedig
  • Pam Astudio yn Abertawe?
  • Beth yw UCAS Extra? Eich canllaw cynhwysfawr
  • Clirio
  • Newidiadau rhaglen israddedig
  • Athrawon ac Ymgynghorwyr
Wedi'i achredu gan Institution of Mechanical Engineers (IMechE)
tef gold logo
Ymgeisio

O ble ydych chi'n gwneud cais?

Gwneud cais fel myfyriwr o'r DU neu'r UE?

Dylai pob myfyriwr y DU neu'r UE wneud cais drwy UCAS

Ewch i UCAS

Gwneud cais fel myfyriwr rhyngwladol?

Mae gennym System Gwneud Cais uniongyrchol rhwydd a chyflym i fyfyrwyr rhyngwladol.

Ewch i'r System Gwneud Cais

Gall myfyrwyr rhyngwladol hefyd wneud cais drwy UCAS

Diwrnod Agored
Cadwch Mewn Cysylltiad
Medical engineering

Defnyddio egwyddorion peirianneg ym maes meddygaeth fodern

Manylion Allweddol y Cwrs

  • D.U.
  • U.E.
  • Rhyngwladol
3 Blynedd Llawn Amser
Côd UCAS
HB18
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
ABB-BBB
Lleoliad
Campws y Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2021 £ 9,000
4 Blynedd Llawn Amser Gyda Blwyddyn Dramor
Côd UCAS
HB01
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
ABB-BBB
Lleoliad
Campws y Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2021 £ 9,000
4 Blynedd Llawn Amser Gyda Blwyddyn mewn Diwydiant
Côd UCAS
HB19
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
ABB-BBB
Lleoliad
Campws y Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2021 £ 9,000
3 Blynedd Llawn Amser
Côd UCAS
HB18
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
ABB-BBB
Lleoliad
Campws y Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2021 £ 20,050
4 Blynedd Llawn Amser Gyda Blwyddyn Dramor
Côd UCAS
HB01
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
ABB-BBB
Lleoliad
Campws y Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2021 £ 20,050
4 Blynedd Llawn Amser Gyda Blwyddyn mewn Diwydiant
Côd UCAS
HB19
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
ABB-BBB
Lleoliad
Campws y Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2021 £ 20,050
3 Blynedd Llawn Amser
Côd UCAS
HB18
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol
ABB-BBB - Gwybodaeth Rhagor
Lleoliad
Campws y Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2021 £ 20,050
4 Blynedd Llawn Amser Gyda Blwyddyn Dramor
Côd UCAS
HB01
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol
ABB-BBB - Gwybodaeth Rhagor
Lleoliad
Campws y Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2021 £ 20,050
4 Blynedd Llawn Amser Gyda Blwyddyn mewn Diwydiant
Côd UCAS
HB19
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol
ABB-BBB - Gwybodaeth Rhagor
Lleoliad
Campws y Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2021 £ 20,050
Wedi'i achredu gan Institution of Mechanical Engineers (IMechE)
tef gold logo

Trosolwg o'r Cwrs

Mae Peirianneg Feddygol yn cymhwyso egwyddorion peirianneg at y corff dynol, er mwyn gweithio tuag at fath soffistigedig a phersonol o ofal iechyd yn y dyfodol.

Mae'n cyfuno peirianneg â'r offerynnau a ddefnyddir mewn meddygaeth fodern, gyda'r nod o greu technolegau newydd pwysig a fydd yn cael effaith ar fywydau pob un ohonom ac yn ymestyn ein hoes. Gallwch fod wrth wraidd y cyfan.

Mae ein cwrs gradd tair blynedd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa sy'n llawn boddhad mewn amrywiaeth o sectorau. Byddwch yn meithrin sgiliau craidd peirianneg gan ddysgu am anatomeg, ffisioleg a chyfathrebu â chlinigwyr ar yr un pryd.

Byddwch yn datblygu galluoedd dadansoddi wrth gael profiad ymarferol o gyfarpar arbenigol uwch, gan feithrin sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer gweithio yn y diwydiant.

Pam Peirianneg Feddygol yn Abertawe?

Mae gan bwnc Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe enw da ac mae'n denu myfyrwyr o bedwar ban byd.

  • Mae Peirianneg cyffredinol yn y 9fed safle yn y DU (The Guardian Good University Guide 2020)
  • Rydym yn un o'r 10 prifysgol orau yn y DU am Ragolygon Graddedigion yn ôl Canllaw Cyflawn i Brifysgolion 2020.
  • O fewn chwe mis i raddio, mae 97% o raddedigion Peirianneg yn gyflogedig neu'n ymgymryd ag astudiaethau pellach (16/17 Graduate DLHE).

Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle i chi dreulio BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT (UCAS HB19) yn y DU neu dramor, gan roi profiad gwerthfawr yn y gweithle yn ogystal â chyflog sydd ar hyn o bryd dros £15,000 ar gyfartaledd. Darperir cymorth ac arweiniad I’ch helpu i sicrhau lleoliad.

Rydym hefyd yn cynnig cyfle i chi ASTUDIO DRAMOR (UCAS HB01) mewn prifysgol bartner sy'n cyfoethogi'r radd, gan roi profiad diwylliannol ac ieithyddol gwerthfawr a all ehangu'ch gorwelion wrth drio am swydd.

Eich Profiad Peirianneg Feddygol

Mae tair prif thema i'n graddau mewn Peirianneg Feddygol:

  1. Biomecaneg a deunyddiau – datblygu a dadansoddi deunyddiau er mwyn iddynt fod yn gryf ac yn fiogydnaws
  2. Offeryniaeth – meintoli technegau diagnostig a therapiwtig uwch
  3. Biobrosesau – manylu ar brosesau ffisegol, cemegol a biolegol pwysig yn y corff dynol

Mae llwybr gradd sydd wedi'i strwythuro'n hyblyg yn rhoi cyfle i chi astudio dramor am flwyddyn neu weithio mewn diwydiant am flwyddyn.

Ymhlith y cyfleusterau o'r radd flaenaf sydd gennym mae offerynnau peirianneg drydanol i adeiladu a phrofi dyfeisiau meddygol ac unedau modelu biomecanyddol i wneud y gorau o dechnolegau mewnblannu.

Byddwch yn astudio mewn ac o amgylch cymuned ymchwil ffyniannus. Mae hyn yn cynnwys y Ganolfan NanoIechyd (CNH), sef cyfleuster unigryw gwerth £22 miliwn sy'n cysylltu peirianneg a meddygaeth.

Mae hefyd yn cynnwys y Ganolfan Peirianneg Systemau a Phrosesau (SPEC), lle y gwneir ymchwil i amrywiaeth o systemau biolegol a chemegol cymhleth.

I wybod mwy am y cwrs, cawsom sgwrs gyda Dr Rowan Brown, Athro Cysylltiol mewn Peirianneg Feddygol, gan ofyn iddo ateb rhai cwestiynau cyffredin.

Cyfleoedd Cyflogaeth Peirianneg Feddygol

Mae graddedigion Peirianneg Feddygol yn cael eu rhoi ar ben y ffordd i gael amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa ysgogol. Gallai eich dyfodol fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol. 

  • Peiriannydd Biofeddygol
  • Peiriannydd/Gwyddonydd Clinigol
  • Gwyddonydd Ymchwil Feddygol
  • Peiriannydd Adsefydlu
  • Peiriannydd Dylunio Prosthetigau
  • Peiriannydd Bioddeunyddiau
  • Peiriannydd Cymhwyso mewn Dyfeisiau Meddygol
  • Peiriannydd Bio-offeryniaeth
  • Offerynnau Llawfeddygol Robotig

Mae'r radd hon yn gam cyntaf ar y llwybr tuag at statws Peiriannydd Siartredig, sy'n uchel ei barch.

Ymwadiad Rhaglen

Prosbectws Israddedig

Darganfyddwch eich prifysgol

Ewch ar rithdaith

virtual tour

Cynnig wedi'i warantu ar gyfer 2020*

Astudio trwy’r Gymraeg

welsh medium

Manyleb Rhaglen

Gofynion Mynediad

Dyma ofynion mynediad y cwrs Peirianneg Feddygol BEng:

ABB - BBB Safon Uwch (gan gynnwys Mathemateg).

Dyma rai pynciau eraill rydym yn eu hargymell:
Ffiseg
Mathemateg Bellach
Cemeg
Dylunio a Thechnoleg
TGCh/Cyfrifiadureg
Bioleg

Gall y cynnig a gewch amrywio’n ôl y pynciau rydych yn eu hastudio a chaiff pob cais ei ystyried ar wahân, a hynny ar sail graddau TGAU, pynciau a graddau UG, profiad gwaith, llythyrau geirda a datganiadau personol.

Neu 32 yn gyffredinol gyda naill ai 5 mewn Mathemateg: dadansoddi ac ymagweddau ar y Lefel Uwch (neu 6 ar y Lefel Safonol), neu 5 mewn Mathemateg: cymwysiadau a dehongli ar y Lefel Uwch (neu 7 ar y Lefel Safonol)

Os yw myfyrwyr yn dilyn cwrs BTEC mewn pynciau perthnasol, bydd angen D*D*D* - D*D*D, gan gynnwys B mewn Mathemateg Safon Uwch. Os nad ydych yn dilyn cwrs Mathemateg Safon Uwch, bydd angen o leiaf D yn y modiwlau ‘Mathemateg i Dechnegwyr’ a D mewn ‘Mathemateg Bellach i Dechnegwyr’ y BTEC. Mae angen i fyfyrwyr hefyd fod ag o leiaf dau gymhwyster TGAU gradd A , gan gynnwys gradd B, o leiaf, mewn Mathemateg a dau bwnc gwyddonol arall.

Gwybodaeth am ofynion mynediad ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol.

Bydd myfyrwyr sydd â phrofiad a chymwysterau diwydiannol yn cael eu hystyried fesul achos. Os ydych chi wedi astudio cymwysterau mynediad neu alwedigaethol, fe'ch cynghorir i wneud cais am y Flwyddyn Sylfaen Integredig. 

Os ydych chi'n gwneud cais am fynediad Lefel Dau (ail flwyddyn), er mwyn cael eich ystyried, bydd angen i chi fod eisoes wedi ymdrin â'r pynciau a gynigir yn Abertawe ar Lefel Un (blwyddyn gyntaf) mewn cymhwyster ardystiedig, gyda sgôr cyffredinol uchel.

Sut byddwch chi'n cael eich dysgu

Mae bloc addysgu un (TB1) yn rhedeg o fis Medi tan fis Ionawr ac yn ystod y bloc hwn, am eleni, bydd y cwrs hwn yn cael ei ddysgu mewn ffordd ‘gymysg’. Mae hyn yn golygu y bydd rhywfaint o addysgu'n cael ei wneud ar-lein a bydd rhywfaint ar y campws. Gall yr addysgu ar-lein, lle byddwch chi ar wahân yn gorfforol i'ch darlithydd, fod yn 'fyw' gyda'ch darlithydd yn bresennol a lle byddwch chi'n gallu rhyngweithio. Gall peth ohono fod yn hunangyfeiriedig sy'n golygu y gallwch gyrchu'r deunyddiau dysgu ar y tro sy'n addas i chi.

 

YN FYW

HYNAN GYFEIRIEDIG

AR-LEIN

  • Darlithoedd wedi’u Ffrydio’n Fyw
  • Dosbarthiadau Enghreiffiau
  • Dosbarthiadau yn y Labordy Cyfrifiaduron
  • Cyfarfodydd Prosiect Unigol
  • Cyfarfodydd Grŵp Dylunio
  • Cyfarfodydd Mentora Unigol
  • Awr Swyddfa ar gyfer pob Modiwl
  • Rhaglen Dysgu dan Gyfarwyddyd
  • Darllen Paratoadol
  • Darlithoedd Cryno wedi’u Recordio
  • Enghreifftiau Gorffenedig wedi’u Recordio
  • Sesiynau Ymarferol wedi’u Recordio
  • Profion ac Enghreifftiau Ffurfiannol
  • Gwaith Prosiect Unigol

AR-CAMPWS

  • Dosbarthiadau Ymarferol
  • Darlithoedd Confensiynol
  • Dosbarthiadau Enghreifftiau
  • Dosbarthiadau yn y Labordy Cyfrifiaduron
  • Sesiwn Ymarferol/Gwaith Cyfrifiadurol Ymarferol
  • Seminarau pwnc
  • Astudio Annibynnol yn y Llyfrgell
  • Astudio Annibynnol mewn Labordai Cyfrifiaduron
  • Cyfarfodydd Grŵp Dylunio

Darpariaeth Gymraeg

Mae hawl gennych i ysgrifennu a chyflwyno eich gwaith cwrs ac i sefyll eich arholiadau yn y Gymraeg, hyd yn oed os ydych wedi dewis dilyn modiwlau cyfrwng Saesneg. Hefyd mae’n bosib i chi ddewis cael cyfweliad trwy gyfrwng y Gymraeg wrth ymgeisio am le.

Darperir rhai elfennau o’r cwrs hwn trwy gyfrwng y Gymraeg ond nid oes digon o ddarpariaeth eto i gyrraedd 40 credyd ym mhob blwyddyn. Bydd parhau i astudio trwy’r Gymraeg wedi i chi adael yr ysgol neu’r coleg yn ddatblygiad naturiol i chi ac yn fodd o sicrhau eich cyfle i gael yr addysg orau. Bydd hefyd yn ychwanegiad gwerthfawr i’ch CV a’ch datblygiad gyrfaol. Mae cyfleoedd ar gael i fyfyrwyr sy’n rhugl ac yn hyderus yn yr iaith yn ogystal ag i’r rhai sy’n llai hyderus neu sy’n ddysgwyr. Mae’n bosibl hefyd ddewis dosbarthiadau seminar a thiwtorial cyfrwng Cymraeg ar gyfer modiwlau sy’n cael eu dysgu yn bennaf drwy gyfrwng y Saesneg.

Achrediad Corff Proffesiynol

Mae Peirianneg Feddygol BEng ym Mhrifysgol Abertawe wedi'i achredu gan Sefydliad Peirianwyr Mecanyddol (IMechE) ar ran y Cyngor Peirianneg er mwyn cyflawni'r gofyniad academaidd i gofrestru'n llawn fel Peiriannydd corfforedig ac yn rhannol fodloni'r gofyniad academaidd i gofrestru fel Siartredig Peiriannydd.

Mae achrediad yn arwydd sicrwydd bod y radd yn bodloni'r safonau a bennir gan y Cyngor Peirianneg yn y Safon ar gyfer Cymhwysedd Peirianneg Broffesiynol y DU (UK-SPEC). Bydd gradd achrededig yn rhoi peth neu bob un o'r wybodaeth sylfaenol, dealltwriaeth a sgiliau i chi ar gyfer cofrestru yn y pen draw fel Corfforedig (IEng) neu Beiriannydd Siartredig (CEng). Bydd gofyn i raglen Dysgu Bellach achrededig gwblhau'r sylfaen addysgol ar gyfer CEng. Mae rhai cyflogwyr yn recriwtio'n ffafriol o raddau achrededig, ac mae'n debyg y bydd gwledydd eraill sy'n llofnodi'r cytundebau rhyngwladol yn cydnabod gradd achrededig.

Cwrdd â'ch Darlithwyr

Bydd y staff academaidd canlynol yn addysgu ar eich gradd Peirianneg Meddygol:

  • Dr Hari Arora
  • Dr Rowan Brown
  • Dr Marco Ellero
  • Dr Anthony Higgins
  • Professor Paul Rees
  • Dr Sanjiv Sharma
  • Professor Huw Summers
  • Dr Raoul VanLoon
  • Dr Christopher Wright

Ffioedd Dysgu

3 Blynedd Llawn Amser

Dyddiad Dechrau D.U. U.E. Rhyngwladol
Medi 2020 £ 9,000 £ 9,000 £ 19,450
Medi 2021 £ 9,000 £ 20,050 £ 20,050

4 Blynedd Llawn Amser Gyda Blwyddyn Dramor

Dyddiad Dechrau D.U. U.E. Rhyngwladol
Medi 2020 £ 9,000 £ 9,000 £ 19,450
Medi 2021 £ 9,000 £ 20,050 £ 20,050

4 Blynedd Llawn Amser Gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

Dyddiad Dechrau D.U. U.E. Rhyngwladol
Medi 2020 £ 9,000 £ 9,000 £ 19,450
Medi 2021 £ 9,000 £ 20,050 £ 20,050

Gellir codi ffioedd myfyrwyr Israddedig y DU llawn amser yn chwyddiannol mewn blynyddoedd astudio i ddod. Penderfynir ar y swm gan Lywodraeth Cymru.

Bydd ffioedd ar gyfer myfyrwyr UE/Rhyngwladol Israddedig yn cynyddu 3% ar gyfer pob blwyddyn ddilynol o astudio.

Yn ystod blwyddyn ryngol (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn dramor neu flwyddyn lleoliad), bydd ffi is yn gymwys. Am ragor o wybodaeth ewch i'n tudalen ffioedd dysgu.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Myfyrwyr cyfredol: Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Ariannu ac Ysgoloriaethau

Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau.

I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gymorth ariannol sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gael gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi

Costau Ychwanegol

Bydd mynediad i'ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i'ch galluogi i ymgysylltu'n llawn â'ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i'w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu'ch dyfais.

Efallai y byddwch chi'n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Teithio i'r campws ac oddi yno
  • Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
  • Prynu llyfrau neu werslyfrau
  • Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio

Nid yw ffioedd dysgu'r radd cynnwys costau personol y myfyriwr megis prynu llyfrau a deunydd ysgrifennu, argraffu a llungopïo.

Mae pob gwerslyfr a argymhellir ar gyfer y cwrs hwn ar gael yn y llyfrgell. Mae’r holl feddalwedd sydd ei hangen ar gyfer y cwrs ar gael ar y rhwydwaith Peirianneg, i'w defnyddio yn ein hystafelloedd cyfrifiaduron ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae mynediad diwifr am ddim at y rhyngrwyd ar gael ledled y campws cyfan y Brifysgol a’r neuaddau preswyl.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe'n cefnogi myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar bob cam yn eu taith yrfaol.

Mae ein gwasanaethau cymorth gyrfaoedd yn cynnwys:

  • Gweithdai cyflogadwyedd, sgyrsiau gan gyflogwyr, digwyddiadau pwrpasol a ffeiriau gyrfaoedd
  • Cyngor ac arweiniad unigol gan Ymgynghorwyr Gyrfaoedd proffesiynol
  • Cymorth i chwilio am swyddi, interniaethau, lleoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli
  • Mynediad i adnoddau gwybodaeth am amrywiaeth eang o bynciau rheoli gyrfa
  • Cyngor ac arweiniad ar astudio a chyllid i fyfyrwyr ôl-raddedig.
  • Ariannu i gefnogi cyfleoedd interniaethau myfyrwyr a digwyddiadau Cymdeithasau/Clybiau Myfyrwyr

Rydym hefyd yn darparu cymorth a chyngor i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe am hyd at bum mlynedd ar ôl iddynt raddio.

Yma yng Ngholeg Peirianneg, rydym yn falch iawn o ragolygon gyrfa rhagorol ein graddedigion Peirianneg.

Rydym yn ymdrechu'n barhaus i wella cyflogadwyedd ein myfyrwyr, trwy feithrin perthynas gref â chyflogwyr graddedig a thrwy sicrhau bod ein myfyrwyr mor barod ag y gallant fod ar gyfer byd gwaith. Darllenwch ragor am ein gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn y Coleg Peirianneg.

Cymorth Academaidd

Yn ogystal â chymorth pwnc penodol gan staff addysgu'r coleg a'ch mentor academaidd personol, mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un-i-un mewn meysydd fel:

  • Ysgrifennu academaidd
  • Mathemateg ac ystadegau
  • Meddwl critigol
  • Rheoli amser
  • Sgiliau digidol
  • Sgiliau cyflwyno
  • Cymryd nodiadau
  • Technegau adolygu, dysgu ar gof ac arholiadau
  • Sgiliau Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf)

Yn ogystal, os oes gennych Anhawster Dysgu Penodol (ADP/SpLD), anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr meddygol, mae gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd Diwtoriaid Arbenigol i gefnogi'ch dysgu. Bydd y tiwtoriaid yn gweithio ochr yn ochr â'r Swyddfa Anabledd a'r Gwasanaeth Lles i gefnogi eich holl anghenion a gofynion tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae darparu'r profiad gorau posibl i fyfyrwyr yn hollbwysig i ni yn y Coleg Peirianneg, ac mae gennym systemau a staff cefnogi ar waith er mwyn hwyluso hyn. Mae gennym ni Gaffi rheolaidd ar gyfer Mathemateg, Cemeg a Meddalwedd i gynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau. Dysgwch fwy am y gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr.

Cyfleoedd Astudio Tramor a Byd-eang

Nid yw cofrestru ar raglen sy'n cynnwys semester/blwyddyn dramor yn gwarantu lleoliad gwaith semester/blwyddyn dramor yn awtomatig. Mae nifer gyfyngedig o leoedd ar gael ac yn amodol ar broses ddethol gystadleuol. Os na fyddwch chi'n llwyddo i ennill lleoliad gwaith semester/blwyddyn dramor, cewch chi eich trosglwyddo i gwrs safonol eich cynllun gradd heb semester neu flwyddyn dramor. I ddysgu mwy am astudio dramor, ewch i'n tudalennau gwe Go Global.

Mae rhaglenni rhyngwladol yr haf ar agor i fyfyrwyr o bob coleg. Fel arfer, mae rhaglenni'n para o 2 i 6 wythnos, ar draws cyrchfannau megis Tsieina, Sambia, De Corea, Siapan, Canada a ledled Ewrop. Am ragor o wybodaeth ynghylch rhaglenni a chymhwysedd, ewch i'n tudalennau gwe Haf Dramor.

Sut i wneud cais

Gwnewch gais nawr - myfyrwyr y DU, UE a rhyngwladol.

Cewch wybod mwy drwy ymweld â'n tudalen ar sut i wneud cais

Cyfarfod â'n cyn-fyfyrwyr Gyan Bhatia

Fy rôl yn Oxford Instruments NanoScience yw Peiriannydd a Rheolwr Gwerthu Technegol ar gyfer y DU, Iwerddon, Ffrainc a Sgandinafia. Mae fy rôl yn cynnwys ymgynghori peirianyddol ac adolygiadau dylunio, sy'n cynnwys ymgynghori ar gysyniadau a gofynion systemau gydag academyddion ar gynnyrch newydd a rhai sy'n bodoli eisoes.

Y peth mwyaf manteisiol a wnes i ym Mhrifysgol Abertawe oedd cymryd rhan mewn llu o bethau gwahanol! Bues i ar bwyllgor y clwb rygbi, yn aelod o'r gymdeithas peirianneg feddygol ac yn cynrychioli fy nghyd-fyfyrwyr peirianneg feddygol ac yn llysgennad pwnc ar gyfer dyddiau agored.

Credaf yn gryf fod y sgiliau rydych chi'n eu dysgu yn yr elfen hon o'r radd yn hynod drosglwyddadwy i gwmni proffesiynol. Yn ogystal, fe wnes i gysylltiadau da gyda gwahanol fyfyrwyr ôl-raddedig, athrawon ac ymchwilwyr oedd yn gysylltiedig â’m prosiect a helpodd hynny fi i gyrraedd ble rydw i heddiw.

Peirianneg Feddygol

Peirianneg Feddygol gyda Blwyddyn Dramor

Peirianneg Feddygol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

  • Colegau Academaidd
  • Cyrsiau Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Coleg Y Celfyddydau a'r Dyniaethau
    • Cyrsiau Israddedig Peirianneg
      • Peirianneg Awyrofod
      • Peirianneg Gemegol
      • Peirianneg Sifil
      • Peirianneg Drydanol Ac Electronig
      • Peirianneg Defnyddiau
      • Peirianneg Fecanyddol
      • Peirianneg Feddygol
        • Peirianneg Feddygol, BEng
        • Peirianneg Feddygol, MEng
        • Peirianneg Feddygol gyda Blwyddyn Sylfaen, BEng
      • Blwyddyn Sylfaen
      • Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, BSc
      • BEng Peirianneg
    • Cyrsiau Israddedig Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd
    • Cyrsiau Israddedig y Gyfraith
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Meddygaeth Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Y Coleg Gwyddoniaeth
    • Cyrsiau Is-raddedig yn dod yn fuan!
    • Gofynion mynediad
  • Cysylltu â'r tîm derbyn israddedig
  • Diwrnodau Agored Israddedig
  • Llety
  • Sut i wneud cais am gwrs israddedig
  • Chwaraeon
  • Bywyd Myfyriwr
  • Ffioedd a Chyllid
  • Gwnewch Gais am 2021
  • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
  • Rhithdaith
  • Gwybodaeth i Rieni a Gwarcheidwaid
  • Prosbectws Israddedig
  • Pam Astudio yn Abertawe?
  • Beth yw UCAS Extra? Eich canllaw cynhwysfawr
  • Clirio
  • Newidiadau rhaglen israddedig
  • Athrawon ac Ymgynghorwyr
Ymgeisio

O ble ydych chi'n gwneud cais?

Gwneud cais fel myfyriwr o'r DU neu'r UE?

Dylai pob myfyriwr y DU neu'r UE wneud cais drwy UCAS

Ewch i UCAS

Gwneud cais fel myfyriwr rhyngwladol?

Mae gennym System Gwneud Cais uniongyrchol rhwydd a chyflym i fyfyrwyr rhyngwladol.

Ewch i'r System Gwneud Cais

Gall myfyrwyr rhyngwladol hefyd wneud cais drwy UCAS

Diwrnod Agored Gofynnwch gwestiwn i ni
  • Cysylltwch â ni
  • Swyddi
  • Colegau
  • Y Wasg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Ymwadiad a Hawlfraint
  • Map o'r Safle
  • Datganiad Caethwasiaeth Fodern
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342