Israddedig
- BEng Gwyddor a Pheirianneg Deunyddiau
(gyda Blwyddyn mewn Diwydiant/Blwyddyn Dramor) - MEng Gwyddor a Pheirianneg Deunyddiau
(gyda Blwyddyn mewn Diwydiant/Blwyddyn Dramor) - BEng gyda Blwyddyn Sylfaen
Mae'r adran Peirianneg Ddeunyddiau yn cynnig amrywiaeth o ysgoloriaethau trwy gydol eu rhaglenni gradd. Mae'r rhain yn cynnwys ysgoloriaethau mynediad hyd at £1500 ar gyfer myfyrwyr â graddau Safon Uwch uchel (neu gyfwerth), ysgoloriaethau teithio o £1000 i'r rhai ar y cynlluniau blwyddyn dramor a rhoddir ysgoloriaethau perfformiad uchel i fyfyrwyr ar ddiwedd pob blwyddyn.
I gael rhagor o fanylion am y cyfleoedd ysgoloriaeth hyn anfonwch e-bost at engineering@abertawe.ac.uk.
Sut i wneud cais
Nid oes angen gwneud cais, caiff y bwrsariaethau eu dyfarnu yn awtomatig gan y Cyfarwyddwr Portffolio a'r Tiwtor Derbyn ar ôl cofrestru. Bydd myfyrwyr yn derbyn hysbysiad ffurfiol o'u dyfarniad ysgoloriaeth cyn dechrau'r tymor.