Trosolwg o'r Cwrs
Bydd ein cwrs gradd Nyrsio Anabledd Dysgu yn rhoi’r sgiliau a’r profiad i chi lansio gyrfa werth chweil yn y proffesiwn amrywiol a hanfodol hwn.
Yn ystod y rhaglen BSc tair blynedd hon sydd wedi’i hintegreiddio’n ofalus, byddwch yn dysgu sut mae mabwysiadu dull rhychwant oes o nyrsio person gydag anabledd dysgu. Wrth i chi symud ymlaen, bydd ein hystod o strategaethau dysgu ac addysgu yn datblygu eich meddwl beirniadol i'ch galluogi i adnabod anghenion amrywiol a chymhleth pobl ag anableddau dysgu; gwneud diagnosis nyrsio cywir a chynllunio a gwerthuso'r gofal sydd ei angen. Byddwch yn dysgu sut mae darparu gofal effeithiol i bobl ag anabledd dysgu a all fod ag afiachusrwydd iechyd lluosog yn ogystal â heriau iechyd meddwl, corfforol, gwybyddol neu ymddygiadol, gan alluogi ymarferwyr i allu cefnogi pobl ag anableddau dysgu o unrhyw oedran.
Digwydda hanner eich addysgu yn y brifysgol ar Gampws Parc Singleton, a'r hanner arall mewn lleoliadau gofal iechyd. Mae gennym berthnasoedd gwaith rhagorol gyda nifer o ddarparwyr gofal iechyd, felly byddwch yn cael mynediad at ystod eang o brofiadau clinigol ar draws de orllewin Cymru.