Trosolwg o'r Cwrs
Bydd ein cwrs BSc mewn Troseddeg a Seicoleg yn rhoi hyfforddiant gwyddonol arbenigol i chi ar y gydberthynas rhwng y meddwl, yr ymennydd ac ymddygiad ynghyd â dealltwriaeth fanwl o ddamcaniaeth cyfiawnder troseddol a'r cysylltiadau rhwng y ddau faes hyn.
Byddwch yn astudio'r prosesau seicolegol a niwrowyddonol sy'n sail i weithgareddau fel meddwl, rhesymu, cof ac iaith, dysgu am effeithiau anaf i'r ymennydd ac ymchwilio i ffyrdd o wella ymddygiad sy'n gysylltiedig ag iechyd.
Byddwch yn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o'r damcaniaethau pwysicaf mewn perthynas â throsedd a gwyriad a'u perthnasedd i bolisi, ymchwil ac ymarfer ym maes cyfiawnder troseddol cyfoes.
Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn meithrin sgiliau ymchwilio, dadansoddi beirniadol a chyfathrebu rhagorol, yn ogystal â lefel uchel o allu rhifedd a TGCh.