Trosolwg o'r Cwrs
Os ydych am i chi wneud gyrfa ble medrwch wneud gwir wahaniaeth, positif i fywydau pobl a chymunedau mewn amgylchiadau sy'n agored i niwed, yna ein gradd Gwaith Cymdeithasol yw'r sbardun perffaith.
Bydd y cwrs yma sydd wedi ei achredu'n broffesiynol yn rhoi'r wybodaeth academaidd a phrofiad ymarferol i chi i ddechrau gyrfa fel gweithiwr cymdeithasol cofrestredig.
Byddwch yn treulio hanner eich amser ar leoliad gwaith cymdeithasol gydag asiantaethau, dysgu drwy arsylwi ac ymarfer, a'r hanner arall yn cael ei addysgu ar ein campws Parc Singleton.
Byddwch yn datblygu ymchwil rhagorol a sgiliau dadansoddi ac yn dysgu i gyfathrebu eich syniadau ar lafar ac yn effeithiol ar lafar a hefyd yn ysgrifenedig.