Trosolwg o'r Cwrs
Bydd ein gradd Awdioleg yn rhoi dealltwriaeth arbenigol i chi o wyddoniaeth clyw, cydbwysedd, a'r cyflyrau patholegol cysylltiedig sy'n effeithio arnynt.
Mae'r cwrs tair blynedd hwn yn cyfuno gwaith academaidd a damcaniaethol trylwyr â'r profiad clinigol ymarferol helaeth sydd ei angen arnoch i gael swydd yn y proffesiwn hwn sy'n tyfu.
Byddwch yn dysgu sut i asesu clyw a chydbwysedd gan ddefnyddio'r offer diagnostig a'r rhaglenni meddalwedd diweddaraf yn ein cyfleusterau clinigol ac ymchwil gwych.
Byddwch yn arsylwi clinigau yn ein Hacademi Iechyd a Llesiant, gan ennill profiad mewn lleoliadau masnachol ac yna mynd ymlaen i adeiladu eich sgiliau a'ch hyder mewn lleoliadau gwaith clinigol mewn ysbytai ledled Cymru.