Ymunwch â'n cwrs blasu 3 wythnos, rhad ac am ddim, gyda'r nod o gael Oedolion yn
Fel rhan o'n cwrs BA yn y Dyniaethau (rhan-amser), rydym ni hefyd yn cynnig cyrsiau rhagflas ar-lein am ddim am 3 wythnos, nos Fawrth 6.30 – 8.00pm lle byddwch yn cael dealltwriaeth o sut beth yw astudio yn y brifysgol.Mae'r sesiynau hyn yn berffaith os ydych chi'n oedolyn sydd am fynd yn ôl i fyd addysg.
Drwy'r pynciau Hanes a Threftadaeth, Llenyddiaeth Saesneg, Gwleidyddiaeth, Cymdeithaseg ac eraill, byddwn ni'n archwilio'r hyn y mae hunaniaeth yn ei olygu a sut mae'n berthnasol i ofod a lle. Gan dynnu ar hanes, llenyddiaeth, cymdeithas a gwleidyddiaeth treftadaeth a llenyddiaeth de Cymru, bydd y dosbarthiadau yn eich cyflwyno i astudio ar lefel prifysgol drwy ddarlithoedd, seminarau a thrafodaethau gafaelgar. Gallwch ddewis a dethol y pynciau sy'n apelio atoch neu ymuno â phob un ohonynt er mwyn cael syniad llawn am yr hyn y gallech ei astudio ar gwrs BA yn y Dyniaethau (rhaglen radd ran-amser). Bydd arweiniad ar gael i unrhyw un sydd â diddordeb mewn symud ymlaen i astudio ym myd addysg uwch, ond mae croeso i bawb, beth bynnag eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y cyrsiau rhagflas byr ar-lein hyn neu os hoffech gyflwyno cais, cwblhewch y ffurflen ar-lein hon neu e-bostiwch HEmaze@abertawe.ac.uk am ragor o fanylion.
Mae'r cyrsiau sydd ar gael ar hyn o bryd yn cynnwys:
Gwybodaeth a Llythrennedd Digidol - Bydd sesiynau'n dechrau ddydd Mawrth, Mawrth 1af
Mae Gwybodaeth a Llythrennedd Digidol yn eich cyflwyno i gysyniadau gwybodaeth o safon, bod â'r gallu i feddwl yn feirniadol a dod i benderfyniadau cytbwys am wybodaeth rydym ni'n dod o hyd iddi ac yn ei defnyddio. Mae'r sgiliau hyn yn eich arfogi i ganfod eich ffordd wrth fyw, gweithio a dysgu mewn cymdeithas ddigidol. Mae'r pynciau'n cynnwys sut i ddeall ac ymwneud ag arferion digidol (gallai enghreifftiau gynnwys llenwi ffurflenni ar-lein, ymddygiad 'gwe-ddus' a rheolau ar gyfer ymgysylltu ar-lein), dod o hyd i wybodaeth, gwerthuso gwybodaeth yn feirniadol, rheoli a chyfleu gwybodaeth, a sut i weithio gyda phobl eraill a rhannu gwybodaeth yn ddigidol. Bydd cyfle gennych i archwilio'r rhain mewn ffordd anffurfiol, heb bwysau, gan ddysgu sgiliau a fydd yn eich helpu ym mhob agwedd ar eich bywyd.
Cyflwyniad i Brydain ar ôl y Rhyfel: Ailystyried y 1960au - Bydd y sesiynau'n dechrau ddydd Mawrth 10 Mai ac yn para tair wythnos.
Bydd y cwrs rhagflas hwn yn eich cyflwyno i hanes Prydain fodern, gan ystyried newid cymdeithasol yn y 1960au hir (gan edrych yn ôl at y cyfnod yn syth ar ôl y rhyfel ac at y 1970au). Yn ystod y cyfnod hwn, gwelwyd herio traddodiadau, ailystyried moesoldeb personol ac archwilio rhyddid newydd. Bu bywiogrwydd diwylliannol, newid cymdeithasol a chwyldro gwleidyddol i gyd yn diffinio bywyd beunyddiol ym Mhrydain.
Ar y cyd, drwy ein tri seminar, byddwn yn dechrau trafod y themâu allweddol a fu'n ategu trawsnewid cymdeithasol a diwylliannol y gymdeithas Brydeinig. Ar ddechrau wythnos un, bydd dadansoddiad o'r dadlau allweddol ynghylch y 1960au a'r heriau craidd sy'n codi wrth astudio'r cyfnod hwn. Yn ystod wythnos dau, byddwn yn archwilio dyfodiad diwylliant ieuenctid ar sail cerddoriaeth, ffasiwn a newidiadau mewn ymddygiad rhywiol. Yn olaf, byddwn yn dod i ben yn wythnos tri wrth archwilio gwaith ymgyrchu myfyrwyr gan ddefnyddio deunydd o gasgliadau archifol Prifysgol Abertawe.
Cyrsiau eraill sydd ar gael:
Cymdeithaseg*, Gwleidyddiaeth*, Saesneg*
*Ar gais, os oes gennych ddiddordeb, e-bostiwch HEmaze@abertawe.ac.uk i fynegi diddordeb.