Trosolwg o'r Cwrs
Ar ein gradd TESOL a Llenyddiaeth Saesneg gyda blwyddyn dramor, gallwch ennill yr wybodaeth a’r sgiliau y mae eu hangen arnoch i addysgu Saesneg fel ail iaith, ynghyd ag archwilio agweddau ar lenyddiaeth Saesneg, o ffuglen Gothig i ysgrifennu creadigol.
Mae addysgu Saesneg yn ffordd wych o weld y byd a bydd y radd hon yn darparu sgiliau ymarferol a throsglwyddadwy sy’n gallu arwain at amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa cyffrous.
Yn ystod eich rhaglen bedair blynedd, byddwch yn dysgu am theori ac ymarfer, methodoleg addysgu ieithoedd, geirfa, gramadeg ac ystyr, seicoieithyddiaeth, dysgu ail iaith ac iaith gyntaf a dadansoddi disgwrs.
Byddwch yn treulio'ch trydedd flwyddyn yn astudio yn Ewrop – cyfle cyffrous a gwobrwyol, a fydd yn gwella'ch rhagolygon gyrfa ymhellach.