Trosolwg o'r Cwrs
Mae astudio gradd sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg, cyfraith a pholisi yn cynnig cyfle cyffrous i archwilio materion cyfoes megis hawliau ieithyddol a statws cyfreithiol y Gymraeg. Dyma gymhwyster arloesol sy'n ymateb i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac yn adlewyrchu gofynion cyflogwyr.
Byddwch yn archwilio materion fel yr iaith Gymraeg a datganoli; y berthynas rhwng iaith a chymdeithas; cynllunio ieithyddol; rôl y Gymraeg mewn addysg; amlddiwylliannedd a'r Gymraeg. Er mai’r profiad Cymreig yw prif ffocws y cwrs, rhoddir sylw hefyd i’r cyd-destun rhyngwladol.
Mae galw mawr bellach am raddedigion sy'n deall cyfraith a pholisi Cymru, ac sy’n meddu ar sgiliau cyfathrebu soffistigedig. Dywed Comisiynydd y Gymraeg: "Mae sefydliadau’n edrych am unigolion sy’n deall anghenion y Gymru gyfoes o ran cyfraith, gweinyddiaeth a pholisi. Mae galw sylweddol ar hyn o bryd ym meysydd gofal ac iechyd, gweinyddiaeth gyhoeddus, heddluoedd a sefydliadau trydydd sector. Mae'r cwrs hwn i'w groesawu fel cam tuag at greu gweithlu’r dyfodol." Bydd astudio'r rhaglen radd hon yn rhoi cyfle i chi gyfuno astudiaethau academaidd â sgiliau cyflogadwyedd ymarferol ar gyfer y gweithle.
Mae gan Adran y Gymraeg arbenigwyr mewn cynllunio ieithyddol, ieithyddiaeth gymdeithasol, y gyfraith a rheoleiddio. Byddwch yn cael eich dysgu gan ddarlithwyr sy'n cynghori ac yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel hyn.