Trosolwg o'r Cwrs
Cyfunwch radd gymhwyso yn y gyfraith wrth astudio hanes, diwylliant a gwleidyddiaeth y genedl fwyaf dylanwadol yn y byd.
Mae ein gradd gydanrhydedd yn y Gyfraith ac Astudiaethau Americanaidd yn rhoi sylfaen gadarn i chi yn y saith maes y mae gradd cymhwyso yn y gyfraith yn eu cynnwys; Cyfraith Contract, Cyfraith Droseddol, Cyfraith Tir, Ecwiti ac Ymddiriedolaethau, Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd, Cyfraith Camweddau a Chyfraith Gyhoeddus.
Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn archwilio agweddau allweddol ar wleidyddiaeth, llenyddiaeth, ffilm, hanes, a chymdeithas Americanaidd.
Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn datblygu sgiliau ymchwilio a dadansoddi rhagorol ac yn dysgu i gyflwyno'ch syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig.