Cyrsiau Israddedig y Gyfraith

Ymunwch â’n cymuned gyfeillgar a ffyniannus o fyfyrwyr israddedig

  • Ein dull gweithredu yw cynnig cefnogaeth addysgol eithriadol, cwricwlwm cynyddol gyda dewis eang o fodiwlau a phrofiad wedi’i bersonoleiddio.
  • Mae ein rhaglenni israddedig yn ddysgir mewn darlithoedd, grwpiau trafod a seminarau rhyngweithiol gan academyddion sydd â phrofiad helaeth yn y diwydiant.
  • Mae galw mawr am ein graddedigion gan gyflogwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, ac mae llawer ohonynt yn aros yn Abertawe ar gyfer astudiaethau ôl-radd.

Graddau'r Gyfraith

LLB Y Gyfraith – 3 blynedd

Cewch ganolbwyntio’ch astudiaethau ar y gyfraith yn unig a dewis o amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol i deilwra’ch gradd i’ch diddordebau chi.

LLB Y Gyfraith gan Troseddeg – 3 blynedd

Enillwch ddealltwriaeth ymarferol am troseddoldeb, erledigaeth, y system cyfiawnder troseddol ochr yn ochr â gradd yn y gyfraith.

LLB Cyfraith Busnes – 3 blynedd

Canolbwyntiwch ar bob agwedd ar gyfraith busnes a masnachol, ac arbenigo mewn meysydd megis cyfraith fasnachol, cyfraith y cyfryngau, gwerthiannau masnachol, a chyfraith cyflogaeth.

LLB Y Gyfraith (Statws Uwch) – 2 flynedd 

Gradd y gyfraith sy'n cael ei haddysgu dros ddwy flynedd i raddedigion heb radd y gyfraith o'r tu allan i'r DU. 

 

Graddau'r Gyfraith gyda Blwyddyn ar Waith

LLB Y Gyfraith ar Waith – 4 blynedd

Ein gradd LLB yn y Gyfraith Anrhydedd Sengl gan dreulio blwyddyn ychwanegol yn ymarfer, gydag interniaeth mewn lleoliad cyfreithiol.

LLB Y Gyfraith ar Waith gan Throseddeg - 4 blynedd

Mae'r radd hon yn darparu dealltwriaeth o system gyfreithiol y DU, ynghyd â gwybodaeth am droseddu ac ymddygiad troseddol, ac interniaeth am flwyddyn mewn lleoliad cyfreithiol

LLB Cyfraith Busnes ar Waith - 4 blynedd

Astudiwch am LLB Cyfraith Busnes ar Waith i ennill gradd cyfraith busnes arbenigol gan dreulio blwyddyn benodol fel intern mewn lleoliad cyfreithiol.

 

Graddau'r Gyfraith gyda Blwyddyn Sylfaen

LLB yn Y Gyfraith gyda Blwyddyn Sylfaen – 4 blynedd

Astudio am Flwyddyn Sylfaen, wedi'i dilyn gan LLB sy'n canolbwyntio ar y gyfraith yn unig, gydag amrywiaeth o fodiwlau i'ch galluogi i lywio eich dysgu eich hun.

LLB Y Gyfraith gan Throseddeg gyda Blwyddyn Sylfaen – 4 blynedd

Cwblhewch Flwyddyn Sylfaen, wedi'i dilyn gan LLB sy'n cyfuno astudio troseddoldeb a pholisi troseddol â rhoi sylw manwl i gyfreithiau Cymru a Lloegr. 

LLB Y Gyfraith ar Waith gyda Blwyddyn Sylfaen - 5 mlynedd

Astudiwch am Flwyddyn Sylfaen, yna ymgymryd â rhaglen LLB 4 blynedd, sy'n cynnwys treulio blwyddyn yn ymarfer gydag interniaeth sy'n canolbwyntio ar y gyfraith.

LLB Y Gyfraith ar Waith gan Throseddeg gyda Blwyddyn Sylfaen - 5 mlynedd

Cwblhewch Flwyddyn Sylfaen, ac yna raglen LLB 4 blynedd, sy'n cyfuno astudio cyfiawnder troseddol â dealltwriaeth o gyfreithiau Cymru a Lloegr, a threulio blwyddyn ychwanegol mewn interniaeth ym myd y gyfraith.

 

Cysylltu a ni yn yr Ysgol y Gyfraith

Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, 
Prifysgol Abertawe, 
Parc Singleton, 
Abertawe, 
SA2 8PP
Ffôn: +44 (0)1792 205678 
 

Myfyrwyr y Dyfodol: 
Cyflwyno ymholiad Israddedig
Derbyn myfyrwyr rhyngwladol

Myfyrwyr presennol:
My Uni Hub