Ynglŷn â'r Cwrs

Mae'r BSc Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol yn Abertawe yn ffordd arloesol a hyblyg i unigolion ennill gradd mewn Peirianneg Meddalwedd a gweithio ar yr un pryd. Mae'r cwrs yn gyfyngedig i aelodau staff cwmnïau a sefydliadau rhanbarthol yn unig a chaiff ei addysgu ar gampws y Brifysgol ar ddydd Mercher, rhwng 1pm ac 8pm, drwy gydol y flwyddyn galendr lawn.

Cynlluniwyd y rhaglen gyda chymorth panel ymgynghorol o'r diwydiant er mwyn llenwi bylchau sgiliau yn y maes. Mae'n ymdrin ag ehangder llawn Peirianneg Meddalwedd, gan gyfuno addysgu academaidd traddodiadol â dysgu yn seiliedig ar waith. Mae 25% o'r asesu'n seiliedig ar roi gwybodaeth academaidd ar waith yn y gweithle.

Mae myfyrwyr sy'n cwblhau dwy flynedd gyntaf y rhaglen yn cael cyfle i ennill gradd FdSc fel cymhwyster ymadael sydd, ynddo ei hun, wedi'i achredu dan y Fframwaith Prentisiaeth Uwch drwy Tech Partnership, Cyngor Sgiliau'r Sector TG.

Os ydych yn chwilio am gwrs Prifysgol sy'n berthnasol i'r sector TG, y gallwch ei gwblhau heb ymyrryd â’ch cyflogaeth, yna mae'r radd BSc mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol yn yr Adran Gyfrifiadureg yn ddelfrydol. Bydd y rhaglen yn eich helpu chi drwy wella'ch gwybodaeth a'ch cyfleoedd gyrfa gan gynyddu llwyddiant eich cyflogwr hefyd.

Ystyriwch gofrestru ar ein rhestr bostio i dderbyn diweddariadau am ein cynlluniau Prentisiaethau Gradd a chyfleoedd hyfforddi eraill.

Pam dewis Cyfrifiadureg yn Abertawe?

Mae gennym yr offer addysgu ac ymchwil diweddaraf o ansawdd uchel yn ein Ffowndri Gyfrifiadurol newydd gwerth £32.5m gan gynnwys Labordy Gweledigaeth a Biometrig, Lab Gwneuthurwr, Lab TechHealth, Theory Lab, Seiberddiogelwch/Labordy Rhwydweithio, Labordy Defnyddwyr ac Ystafell Ddelweddu.

  • 3ydd yn y DU am Addysgu* (NSS 2023) *Wedi'i seilio ar sgôr bositifrwydd gyfartalog cwestiynau 1 i 4 yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2023 o'i chymharu â phrifysgolion a ymddangosodd yn The Times Good University Guide.
  • Un o’r 201-250 o Raglenni Gorau yn y Byd (THE World University Rankings 2024)
  • Un o’r 201-250 o Brifysgolion Gorau yn y Byd ar gyfer Cyfrifiadureg a Systemau Gwybodaeth (QS World University Rankings 2023)
  • Barnwyd bod 100% o'n heffaith ymchwil yn arwain y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol - Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021
  • Mae 90% o'n hymchwil yn arwain y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol - Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021
  • Mae 92% o raddedigion mewn cyflogaeth a/neu'n astudio 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe. (Arolwg Hynt Graddedigion HESA 2023)