Rydym yn falch o ddarparu profiad addysgol rhagorol, gan ddefnyddio'r dulliau dysgu ac addysgu mwyaf effeithiol, wedi'u teilwra'n ofalus i anghenion penodol eich cwrs. Ar wahân i nifer fach o gyrsiau ar-lein, mae'r rhan fwyaf o'n cyrsiau'n cynnwys addysgu wyneb yn wyneb ar y campws, gan alluogi ymgysylltiad llawn â'ch darlithwyr a'ch cyd-fyfyrwyr.
Mae sesiynau sgiliau ymarferol, seminarau gwaith labordy, a gweithdai yn bennaf yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb ar y campws, gan ganiatáu gweithio mewn grŵp ac arddangosiadau. Rydym hefyd yn gweithredu labordai rhithwir ac Amgylcheddau Dysgu Efelychol a fydd yn hwyluso mwy o fynediad at gyfleoedd hyfforddi yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae ein dulliau addysgu hefyd yn cynnwys defnyddio rhywfaint o ddysgu ar-lein i gefnogi a gwella addysgu wyneb yn wyneb traddodiadol.
Gall dysgu ar-lein ddigwydd ‘yn fyw’ gan ddefnyddio meddalwedd fel Zoom, sy'n eich galluogi i ryngweithio â'r darlithydd a myfyrwyr eraill ac i ofyn cwestiynau. Mae recordiadau darlithoedd hefyd yn caniatáu mwy o hyblygrwydd i ailedrych ar ddeunydd, i adolygu at asesiadau ac i wella dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Mae gan rai modiwlau adnoddau ychwanegol ar Canvas, megis fideos, sleidiau a chwisiau sy'n galluogi astudiaeth hyblyg bellach.
Mae'r cwrs gradd yn dilyn y tymor academaidd 36 wythnos arferol a phan fyddwch yn dechrau eich ail a thrydedd flwyddyn, byddwch yn treulio pedair wythnos ychwanegol mewn yn y clinig.
Drwy gydol eich cwrs, byddwch yn cynyddu eich oriau ymarfer clinigol hyd at o leiaf 1,200 er mwyn eich galluogi i gofrestru â'r Cyngor Osteopathig Cyffredinol.
Yn ystod eich blwyddyn gyntaf a'ch ail flwyddyn, byddwch yn arsylwi ar ymarfer osteopathi clinigol yn ein Clinig Iechyd a Llesiant o'r radd flaenaf. Yn y drydedd a'r bedwaredd flwyddyn, byddwch yn cael profiad ymarferol o reoli cleifion o dan oruchwyliaeth Osteopath cymwysedig.