O fewn wythnosau cyswllt, byddwch yn dychwelyd i'ch swyddi llawn amser fel EMTs sy'n gweithio o fewn WAST. Mae hyn yn rhoi cyfle gwerthfawr i atgyfnerthu damcaniaeth yn ymarfer wrth astudio ac ennill.
Yn ystod yr ail flwyddyn o astudiaeth, tra byddwch ar eich wythnosau ambiwlans, bydd y lleoliadau ychwanegol canlynol yn cael eu trefnu:
Paediatrig
- Mamolaeth
- Adran Argyfwng
- Uned Gofal Coronaidd
- Theatrau
Mae lleoliadau dysgu’n darparu cyfleoedd clinigol priodol a pherthnasol i ddysgwyr mewn sefyllfa ymarfer proffesiynol i gefnogi mireinio a datblygu'r wybodaeth a'r sgiliau a ddysgwyd ar raglen gofal iechyd cyn cofrestru ymhellach. O ganlyniad i ddysgu ymarfer yn effeithiol, gall dysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth broffesiynol a thrwy hynny ddysgu integreiddio theori gydag ymarfer o dan oruchwyliaeth uniongyrchol neu anuniongyrchol aelod o staff sydd â chymwysterau a phrofiad priodol wedi'i arwain gan gyrff proffesiynol, rheoleiddiol neu statudol perthnasol.
Yn ystod wythnosau cyswllt bydd gennych ddarlithoedd arweiniol, sesiynau gwaith grŵp bach, addysgu sgiliau ymarferol, Technoleg Gwybodaeth (TG), Amgylcheddau Dysgu Rhithwir, efelychu, cyflwyniadau sy'n canolbwyntio ar y dysgwr a Dysgu drwy Brofiad.
Cyflwynir yr addysgu gan dîm y Gwyddorau Parafeddygol, ond hefyd gan ddarlithwyr arbenigol.
Mae'r cwrs hwn yn cynnig rhai modiwlau a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog i fyfyrwyr sy'n ystyried eu hunain yn siaradwyr Cymraeg rhugl. I gael rhagor o fanylion am y ddarpariaeth sydd ar gael gweler yr esboniad Darpariaeth Gymraeg isod.