Cyrsiau Israddedig Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Myfyrwyr ar y traeth

Rydym yn dod â'r meysydd iechyd, nyrsio, bydwreigiaeth a gofal cymdeithasol ynghyd i gynnig ystod eang o gyrsiau sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl a chymdeithas yn gyffredinol.  Mae ein myfyrwyr yn dweud wrthym fod ein brwdfrydedd a'n hangerdd yn eu hysgogi a'u hysbrydoli i weithio'n galed, i feddwl yn wahanol ac i lwyddo.

Gall myfyrwyr ddefnyddio arbenigedd ymchwilwyr ac addysgwyr blaenllaw ac maen nhw'n cael eu cefnogi a'u hannog i fod y genhedlaeth nesaf o nyrsys, gwyddonwyr gofal iechyd a gweithwyr iechyd proffesiynol. Beth am ddatblygu eich gyrfa mewn amgylchedd cyffrous a dynamig gyda chymuned agos o fyfyrwyr a chyfleusterau o'r radd flaenaf.

Rydym am i'n myfyrwyr wneud gwahaniaeth heddiw ac yn y dyfodol...

Ein Cyrsiau Israddedig