Prifysgol Abertawe
Sgip i brif cynnwys
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
Menu Prifysgol Abertawe
Sgip i brif cynnwys
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
  1. Hafan
  2. Israddedig
  3. Cyrsiau Israddedig
  4. Cyrsiau Israddedig Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau
  5. Ieithoedd, Cyfieithu a Chyfathrebu
  6. BA Ieithoedd Modern gyda blwyddyn dramor
  • In this section
  • Colegau Academaidd
  • Cyrsiau Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau
      • Astudiaethau Americanaidd
      • Clasuron, Hanes Hynafol ac Aifft
      • Adran y Gymraeg
      • Ysgol Addysg
      • Iaith Saesneg
      • Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol
      • Hanes
      • Astudiaethau’r Cyfryngau a Chyfathrebu
      • Astudiaethau Canoloesol
      • Ieithoedd, Cyfieithu a Chyfathrebu
        • BA Ieithoedd Modern gyda blwyddyn dramor
        • BA Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd rhwng Saesneg a Tsieinëeg
      • Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol
      • TESOL
      • Rhyfel a Chymdeithas
    • Cyrsiau Israddedig Peirianneg
    • Cyrsiau Israddedig Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd
    • Cyrsiau Israddedig y Gyfraith
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Meddygaeth Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Y Coleg Gwyddoniaeth
  • Diwrnodau Agored Israddedig
  • Llety
  • Sut i wneud cais am gwrs israddedig
  • Chwaraeon
  • Bywyd Myfyriwr
  • Ffioedd a Chyllid
  • Rhithdaith
  • Gwybodaeth i Rieni a Gwarcheidwaid
  • Prosbectws Israddedig
  • Pam Astudio yn Abertawe?
  • Astudio
      • Ymweld â ni Engineering Central in the sun

        Dewch i gwrdd â ni mewn diwrnod Agored

      • Israddedig
        • Cyrsiau
        • Llety
        • Diwrnodau Agored
        • Sut i wneud cais
        • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
        • Gwybodaeth i Rieni a Gwarcheidwad
      • Ôl-raddedig
        • Cyrsiau
        • Rhaglenni Ymchwil
        • Diwrnod Agored
        • Sut i Wneud Cais
        • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
        • Y Brifysgol
      • Bywyd Myfyriwr
        • Pam Abertawe
        • Bywyd y campws
        • Chwaraeon
        • Clybiau a Chymdeithasau
        • Diwrnod Agored Rhithwir
      • Gwasanaethau i Fyfyrwyr
        • Llyfrgelloedd ac Archifau
        • Chwaraeon
        • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
        • Canolfan Llwyddiant Academaidd
        • Academi Hywel Teifi
  • Ymchwil
  • Busnes
  • Cyn-fyfyrwyr
  • Y Brifysgol
      • Swyddfa'r Wasg Female student working with steel

        Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon

      • Amdanom ni
        • Bywyd y campws
        • Sut i ddod o hyd i ni
        • Gwobrau ac Anrhydeddau
        • Hanes a threftadaeth
        • Adrannau gweinyddol
        • Swyddfa'r Wasg
        • Swyddi
        • Cysylltu â ni
      • Chwaraeon
        • Cyfleusterau Chwaraeon
        • Iechyd a Ffitrwydd
        • Perfformiad ac Ysgoloriaethau
        • Chwaraeon i fyfyrwyr
        • Rhaglenni a Digwyddiadau
      • Bywyd y campws
        • Campws Parc Singleton
        • Campws y Bae
        • Ein Tiroedd
        • Chwaraeon
        • Llefydd gwych i fwyta
        • Diwrnod Agored Rhithwir
        • Datblygu'r Campws
      • Colegau Academaidd
        • Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau
        • Coleg Peirianneg
        • Gwyddorau Dynol ac Iechyd
        • Ysgol y Gyfraith
        • Yr Ysgol Reolaeth
        • Ysgol Feddygaeth
        • Y Coleg Gwyddoniaeth
        • Y Coleg
      • Academïau
        • Academi Iechyd a Llesiant
        • Academi Morgan
        • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
        • Academi Hywel Teifi
  • Newyddion
  1. Hafan
  2. Israddedig
  3. Cyrsiau Israddedig
  4. Cyrsiau Israddedig Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau
  5. Ieithoedd, Cyfieithu a Chyfathrebu
  6. BA Ieithoedd Modern gyda blwyddyn dramor

Ieithoedd Modern, BA (Hons)

tef gold logo
Ymgeisio
Diwrnod Agored
Gofynnwch gwestiwn i ni

Mae 91% o'n graddedigion yn gweithio neu'n astudio ymhellach o fewn chwe mis i r

Manylion Allweddol y Cwrs

  • D.U./U.E.
  • Rhyngwladol
4 Blynedd Llawn Amser
    • Côd UCAS R901
    • Dull Astudio Ar y Campws
    • Dyddiad Dechrau Medi 2019
    • Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall) BBB
    • Lleoliad
    • Ffioedd Dysgu Y Flwyddyn £ 9,000
4 Blynedd Llawn Amser
    • Côd UCAS R901
    • Dull Astudio Ar y Campws
    • Dyddiad Dechrau Medi 2019
    • Cynnig Nodweddiadol BBB - Gwybodaeth Rhagor
    • Lleoliad
    • Ffioedd Dysgu Y Flwyddyn £ 15,500
tef gold logo

Trosolwg o'r Cwrs

Ar ein cwrs gradd newydd Ieithoedd Modern gyda blwyddyn dramor, gallwch astudio un, dwy neu dair iaith, a fydd yn eich helpu i ddod yn rhan o gymuned fyd-eang ac yn arwain at amrywiaeth eang o yrfaoedd.

Yn ogystal â meithrin eich sgiliau iaith Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Tsieinëeg Mandarin neu Sbaeneg, byddwch hefyd yn astudio diwylliant, addysg a chyfieithu.

Byddwch hefyd yn treulio blwyddyn dramor, naill ai ar leoliad gwaith am dâl neu'n astudio yn un o'n sefydliadau partner – cyfle cyffrous a gwerthfawr a fydd yn gwella eich profiad fel myfyriwr a'ch rhagolygon gyrfa ymhellach.

Pam Ieithoedd Modern yn Abertawe?

Byddwch wedi'ch lleoli ar gampws godidog Parc Singleton, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe ar gyrion Penrhyn Gŵyr a hefyd:

  • Cewch eich addysgu gan arbenigwyr ym maes ymchwil sy'n arbenigo mewn ffilmiau, astudiaethau rhywedd, llenyddiaeth ganoloesol a modern cynnar, astudiaethau theatr a chyfieithu; 
  • Bydd gennych fentor academaidd a fydd yn rhoi unrhyw gymorth sydd ei angen arnoch;
  • Gallwch gwrdd â myfyrwyr cyfnewid mewn ‘caffis iaith’ wythnosol er mwyn cael cyfle i sgwrsio yn yr ieithoedd rydych yn eu hastudio.
  • Bydd cyfle i chi astudio rhai modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg;

Eich Profiad Ieithoedd Modern

Gallwch astudio unrhyw un o'r pum iaith o lefel dechreuwyr. Gallwch hefyd astudio Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg ar lefel uwch na Safon Uwch (neu gymhwyster cyfatebol), a gallwch hefyd ddysgu Arabeg sylfaenol ac, os ydych yn astudio Sbaeneg, gallwch ddysgu Catalaneg.

Byddwch yn cael hyfforddiant iaith dwys ac yn astudio modiwlau dewisol sy'n ymwneud ag agweddau amrywiol ar gymdeithas, diwylliant, addysg a chyfieithu a chyfieithu ar y pryd.

Canolbwynt y cwrs gradd yw'r drydedd flwyddyn y byddwch yn ei threulio dramor. Gallwch ddewis gweithio am dâl fel un o gynorthwywyr iaith y British Council yn Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal neu Sbaen (argymhellir hyn i bawb ar y llwybr Addysg), neu astudio mewn prifysgol bartner, a fydd yn eich galluogi i dreulio un semester mewn un wlad a semester arall mewn gwlad arall.

Gallwch hefyd ymgymryd â lleoliadau gwaith am dâl neu weithio fel gwirfoddolwr ar raglenni cymeradwy, a bydd cyfleoedd yn America Ladin ar gael i fyfyrwyr Sbaeneg.

Cyfleoedd Cyflogaeth Ieithoedd Modern

Mae 91% o'n graddedigion yn gweithio neu'n astudio ymhellach o fewn chwe mis i raddio (DLHE 2015).

Gall y cwrs gradd hwn arwain at gyfleoedd gyrfa cyffrous yn y DU ac yn rhyngwladol.

 Mae ein graddedigion yn dilyn gyrfaoedd yn y meysydd canlynol:

  • addysg
  • cyfieithu a chyfieithu ar y pryd
  • newyddiaduraeth, y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus
  • llywodraeth, gwleidyddiaeth a sefydliadau dyngarol
  • busnes a masnach
  • gwasanaethau cyhoeddus

Ymwadiad Rhaglen

Prosbectws Israddedig

Darganfyddwch eich prifysgol

Ewch ar rithdaith

virtual tour

Cynnig wedi'i warantu ar gyfer 2019*

Astudio trwy’r Gymraeg

welsh medium

Gofynion Mynediad

Ein gofyniad mynediad safonol yw BBB (120 o bwyntiau tariff UCAS) neu gyfwerth. Caiff ein holl gynigion eu gwneud yn dilyn adolygiad o'r ffurflen gais, y graddau a ragwelir/enillwyd a'r pynciau, y geirda a'r datganiad personol. Rydym hefyd yn derbyn amrywiaeth o gymwysterau lefel uwch, gan gynnwys: 32 yn y Fagloriaeth Ryngwladol; Bagloriaeth Cymru – gradd sy'n gyfwerth â Safon Uwch; Cymwysterau Mynediad i Addysg Uwch a'r Brifysgol Agored, a Phrosiect Estynedig.

Rydym yn gofyn am sgôr IELTS o 6.0 fan leiaf ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn siarad Saesneg fel eu hiaith gyntaf.

Sut fyddwch chi'n cael eich dysgu

Yn ystod blwyddyn gyntaf eich astudiaethau, cewch eich addysgu drwy ddarlithoedd a thiwtorialau. Bydd y broses asesu yn cynnwys gwaith cwrs, traethawd ac arholiad.

Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn dysgu drwy seminarau a gwaith grŵp. Bydd y broses asesu yn amrywiol ac yn cynnwys gwaith cwrs, traethodau, cyflwyniadau grŵp ac arholiad.

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn cwblhau astudiaethau annibynnol drwy ddulliau ymchwilio, traethawd hir neu bortffolio ymarfer a chewch hefyd eich addysgu drwy seminarau a gwaith grŵp. Bydd y broses asesu yn cynnwys traethawd ymchwil hir annibynnol, cyflwyniad annibynnol, gwaith cwrs ac arholiad.

Mae ein dysgu ac addysgu yn gwella eich sgiliau allweddol, y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt mewn graddedigion, fel a ganlyn:

  • Hunanreoli (mynychu dosbarthiadau, cadw at derfynau amser, paratoi ar gyfer seminarau, traethawd hir)
  • Gweithio mewn tîm (cyflwyniadau grŵp, seminarau grŵp, teithiau astudio a phrosiectau)
  • Ymwybyddiaeth o gwsmeriaid (astudio dramor, interniaethau, lleoliadau gwaith, profiad myfyrwyr)
  • Datrys problemau (ysgrifennu traethodau, ymchwil, arholiadau)
  • Cyfathrebu a llythrennedd (traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, gwaith prosiect, traethawd hir)
  • Sgiliau rhifedd (dadansoddi data, ystadegau, graffiau, setiau data)
  • Technoleg gwybodaeth (Blackboard, traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, cyfryngau cymdeithasol)

Darpariaeth Gymraeg

Mae hawl gennych i ysgrifennu a chyflwyno eich gwaith cwrs ac i sefyll eich arholiadau yn y Gymraeg, hyd yn oed os ydych wedi dewis dilyn modiwlau cyfrwng Saesneg. Hefyd mae’n bosib i chi ddewis cael cyfweliad trwy gyfrwng y Gymraeg wrth ymgeisio am le.

Darperir rhai elfennau o’r cwrs hwn trwy gyfrwng y Gymraeg ond nid oes digon o ddarpariaeth eto i gyrraedd 40 credyd ym mhob blwyddyn. Bydd parhau i astudio trwy’r Gymraeg wedi i chi adael yr ysgol neu’r coleg yn ddatblygiad naturiol i chi ac yn fodd o sicrhau eich cyfle i gael yr addysg orau. Bydd hefyd yn ychwanegiad gwerthfawr i’ch CV a’ch datblygiad gyrfaol. Mae cyfleoedd ar gael i fyfyrwyr sy’n rhugl ac yn hyderus yn yr iaith yn ogystal ag i’r rhai sy’n llai hyderus neu sy’n ddysgwyr. Mae’n bosibl hefyd ddewis dosbarthiadau seminar a thiwtorial cyfrwng Cymraeg ar gyfer modiwlau sy’n cael eu dysgu yn bennaf drwy gyfrwng y Saesneg.

Cwrdd â'ch Darlithwyr

  • Susanne Arenhovel
  • Ariotti, Chiara (Ms)
  • Professor Tom Cheesman
  • Dr Lloyd Davies
  • Dr Giovanna Donzelli
  • Salwa El-Awa
  • Dr Maria Fernandez-Parra
  • Ms Christiane Güenther
  • Dr Brigid Haines
  • Mr Julien Hamilton-Hart
  • Dr Gregory Herman
  • Dr Kathryn Jones
  • Mrs Ute Keller-Jenkins
  • Dr Joanne Langley
  • Dr Federico Lopez-Terra
  • Dr Geraldine Lublin
  • Huicong Luo (Tanya)
  • Mrs Tanya May
  • Dr Rocio Perez Tattam
  • Professor Julian Preece
  • Mrs Adriana Rizzo-Dunnage
  • Dr Catherine Rodgers
  • Dr Patricia Rodriguez-Martinez
  • Professor Andy Rothwell
  • Sophie Rouys
  • Dr Sabrina Wang
  • Dr Alison Williams

Ffioedd Dysgu

Y ffioedd dysgu blynyddol ar gyfer blwyddyn academaidd 2019/20 fydd:

D.U./U.E. Rhyngwladol
BA (Hons) Llawn Amser £ 9,000 £ 15,500

Gellir codi ffioedd myfyrwyr Israddedig y DU/UE llawn amser yn chwyddiannol mewn blynyddoedd astudio i ddod. Penderfynir ar y swm gan Lywodraeth Cymru.

Bydd ffioedd ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol Israddedig yn cynyddu 3% ar gyfer pob blwyddyn ddilynol o astudio.

Yn ystod blwyddyn ryngol (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn dramor neu flwyddyn lleoliad), bydd ffi is yn gymwys. Am ragor o wybodaeth ewch i'n tudalen ffioedd dysgu.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Myfyrwyr cyfredol: Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau

Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau.

I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gymorth ariannol sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau y Brifysgol.

Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gael gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi

Costau Ychwanegol

Gallwch wynebu costau ychwanegol yn ystod eich amser yn y Brifysgol, gan gynnwys y canlynol (ond nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr):

  • Parcio yn y cae hamdden a theithio i'r campws ac oddi yno
  • Argraffu, llungopïo, costau deunyddiau a chyfarpar ysgrifennu (e.e. cof bach)
  • Prynu llyfrau neu destunau
  • Argraffu a rhwymo
  • Gŵn ar gyfer seremonïau graddio

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe'n cefnogi myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar bob cam yn eu taith yrfaol.

Mae ein gwasanaethau cymorth gyrfaoedd yn cynnwys:

  • Gweithdai cyflogadwyedd, sgyrsiau gan gyflogwyr, digwyddiadau pwrpasol a ffeiriau gyrfaoedd
  • Cyngor ac arweiniad unigol gan Ymgynghorwyr Gyrfaoedd proffesiynol
  • Cymorth i chwilio am swyddi, interniaethau, lleoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli
  • Mynediad i adnoddau gwybodaeth am amrywiaeth eang o bynciau rheoli gyrfa
  • Cyngor ac arweiniad ar astudio a chyllid i fyfyrwyr ôl-raddedig.
  • Ariannu i gefnogi cyfleoedd interniaethau myfyrwyr a digwyddiadau Cymdeithasau/Clybiau Myfyrwyr

Rydym hefyd yn darparu cymorth a chyngor i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe am hyd at bum mlynedd ar ôl iddynt raddio.

Cymorth Academaidd

Yn ogystal â chymorth pwnc penodol gan staff addysgu'r coleg a'ch mentor academaidd personol, mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un-i-un mewn meysydd fel:

  • Ysgrifennu academaidd
  • Mathemateg ac ystadegau
  • Meddwl critigol
  • Rheoli amser
  • Sgiliau digidol
  • Sgiliau cyflwyno
  • Cymryd nodiadau
  • Technegau adolygu, dysgu ar gof ac arholiadau
  • Sgiliau Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf)

Yn ogystal, os oes gennych Anhawster Dysgu Penodol (ADP/SpLD), anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr meddygol, mae gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd Diwtoriaid Arbenigol i gefnogi'ch dysgu. Bydd y tiwtoriaid yn gweithio ochr yn ochr â'r Swyddfa Anabledd a'r Gwasanaeth Lles i gefnogi eich holl anghenion a gofynion tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae ein myfyrwyr yn bwysig i ni a'n nod yw sicrhau eich bod yn ennill y dosbarth gradd gorau. Mae gennym system mentora personol lle y dyrennir mentor academaidd i chi. Mae gennym hefyd bolisi "drws agored" lle mae ein hathrawon academaidd ar gael i siarad â chi ar unrhyw adeg am unrhyw ymholiadau neu bryderon academaidd a allai fod gennych.

Cyfleoedd Byd-eang

Efallai bod gennych eisoes y cyfle i astudio neu weithio dramor fel rhan o’ch gradd, ond gallwch hefyd ystyried rhaglen haf ryngwladol.

Mae'r rhaglenni ar agor i fyfyrwyr israddedig y Brifysgol ac ymhlith yr opsiynau mae teithiau astudio a diwylliannol, rhaglenni gwirfoddoli ac interniaethau ledled gwledydd tramor fel Tsieina, Sambia, De Corea, Siapan, Ewrop a Chanada. Fel rheol, mae rhaglenni dros gyfnod o 2 – 6 wythnos ac mae cyllid ar gael. Am fwy o wybodaeth ewch i Rhaglenni Haf.

Caiff pob un o'n myfyrwyr yr opsiwn o astudio dramor. Mae ein rhaglenni pedair blynedd yn cynnig blwyddyn lawn dramor ac rydym hefyd yn cynnig tymor dramor ar gyfer cyrsiau gradd tair blynedd, yn ystod eich ail flwyddyn o fis Ionawr i fis Mai yn Hong Kong, Singapôr ac UDA. Rhaglen gyfnewid yw'r tymor dramor felly byddwch yn talu ffioedd dysgu'r DU a byddwch yn gyfrifol am gostau llety a byw yn y sefydliad partner am y tymor hwnnw.

Sut i wneud cais

Gwnewch gais nawr - myfyrwyr y DU, UE a rhyngwladol.

Cewch wybod mwy drwy ymweld â'n tudalen ar sut i wneud cais

Ieithoedd Modern

  • Colegau Academaidd
  • Cyrsiau Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau
      • Astudiaethau Americanaidd
      • Clasuron, Hanes Hynafol ac Aifft
      • Adran y Gymraeg
      • Ysgol Addysg
      • Iaith Saesneg
      • Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol
      • Hanes
      • Astudiaethau’r Cyfryngau a Chyfathrebu
      • Astudiaethau Canoloesol
      • Ieithoedd, Cyfieithu a Chyfathrebu
        • BA Ieithoedd Modern gyda blwyddyn dramor
        • BA Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd rhwng Saesneg a Tsieinëeg
      • Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol
      • TESOL
      • Rhyfel a Chymdeithas
    • Cyrsiau Israddedig Peirianneg
    • Cyrsiau Israddedig Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd
    • Cyrsiau Israddedig y Gyfraith
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Meddygaeth Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Y Coleg Gwyddoniaeth
  • Diwrnodau Agored Israddedig
  • Llety
  • Sut i wneud cais am gwrs israddedig
  • Chwaraeon
  • Bywyd Myfyriwr
  • Ffioedd a Chyllid
  • Rhithdaith
  • Gwybodaeth i Rieni a Gwarcheidwaid
  • Prosbectws Israddedig
  • Pam Astudio yn Abertawe?
Ymgeisio Diwrnod Agored
  • Cysylltwch â ni
  • Swyddi
  • Colegau
  • Y Wasg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Ymwadiad a Hawlfraint
  • Map o'r Safle
  • Preifatrwydd a Chwcis
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342
  • Facebook link
  • Instagram link
  • Twitter link
  • youtube link
  • flickr link
  • linkedin link