Yn ystod blwyddyn gyntaf eich astudiaethau, cewch eich addysgu drwy ddarlithoedd a thiwtorialau. Bydd y broses asesu yn cynnwys gwaith cwrs, traethawd ac arholiad.
Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn dysgu drwy seminarau a gwaith grŵp. Bydd y broses asesu yn amrywiol ac yn cynnwys gwaith cwrs, traethodau, cyflwyniadau grŵp ac arholiad.
Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn cwblhau astudiaethau annibynnol drwy ddulliau ymchwilio, traethawd hir neu bortffolio ymarfer a chewch hefyd eich addysgu drwy seminarau a gwaith grŵp. Bydd y broses asesu yn cynnwys traethawd ymchwil hir annibynnol, cyflwyniad annibynnol, gwaith cwrs ac arholiad.
Mae ein dysgu ac addysgu yn gwella eich sgiliau allweddol, y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt mewn graddedigion, fel a ganlyn:
- Hunanreoli (mynychu dosbarthiadau, cadw at derfynau amser, paratoi ar gyfer seminarau, traethawd hir)
- Gweithio mewn tîm (cyflwyniadau grŵp, seminarau grŵp, teithiau astudio a phrosiectau)
- Ymwybyddiaeth o gwsmeriaid (astudio dramor, interniaethau, lleoliadau gwaith, profiad myfyrwyr)
- Datrys problemau (ysgrifennu traethodau, ymchwil, arholiadau)
- Cyfathrebu a llythrennedd (traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, gwaith prosiect, traethawd hir)
- Sgiliau rhifedd (dadansoddi data, ystadegau, graffiau, setiau data)
- Technoleg gwybodaeth (Blackboard, traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, cyfryngau cymdeithasol)