Trosolwg o'r Cwrs
Mae Hanes a Pholisi Cymdeithasol yn eich galluogi i archwilio i’r gorffennol a hefyd ddysgu sut allwch ddylanwadu ar, neu newid, anghenion cymdeithasol pobl heddiw.
Byddwch yn archwilio i hanes drwy bynciau amrywiol gan gynnwys astudiaethau a rhywedd menywod, agweddau gwleidyddol, hanes morol ac ymerodrol, yn ogystal â hanes crefydd, gwyddoniaeth a meddygaeth. Byddwch yn darganfod sut mae Polisi Cymdeithasol yn berthnasol i ni gyd gan ei fod yn ymdrin ag agweddau bob dydd ein bywydau.
Mae astudio’r cwrs gradd dair-blynedd hon yn agor y drws ar ystod eang o gyfleoedd gyrfa cyffrous gan eich helpu i ddatblygu sgiliau sy’n werthfawr iawn i gyflogwyr.
Mae 94% o’n graddedigion Hanes naill ai wedi’u cyflogi neu’n gwneud astudiaethau pellach o fewn chwe mis o raddio (Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch 2015).