Trosolwg o'r Cwrs
Gall ein cwrs gradd BA (Anrh.) Gwleidyddiaeth ac Almaeneg gyda blwyddyn dramor gynnig amrywiaeth o bosibiliadau gyrfa cyffrous drwy eich helpu i feithrin sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn rhoi llawer o werth arnynt.
Mae'r cwrs gradd pedair blynedd yn cynnwys archwilio gwleidyddiaeth Prydain ac Ewrop, polisi cyhoeddus, damcaniaeth ac athroniaeth wleidyddol, yn ogystal ag Almaeneg a llenyddiaeth a diwylliant yr Almaen.
Byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn yn yr Almaen – profiad cyffrous a llawn boddhad a fydd yn cyfoethogi eich rhagolygon gyrfa ymhellach.
Mae Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn y 10 uchaf yn y DU am brofiad addysgu (Times a Sunday Times 2018).