Prifysgol Abertawe
Sgip i brif cynnwys
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
Menu Prifysgol Abertawe
Sgip i brif cynnwys
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
  1. Hafan
  2. Israddedig
  3. Cyrsiau Israddedig
  4. Cyrsiau Israddedig Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau
  5. Astudiaethau Canoloesol
  6. BA Astudiaethau Canoloesol
  • In this section
  • Colegau Academaidd
  • Cyrsiau Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau
      • Astudiaethau Americanaidd
      • Clasuron, Hanes Hynafol ac Aifft
      • Adran y Gymraeg
      • Ysgol Addysg
      • Iaith Saesneg
      • Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol
      • Hanes
      • Astudiaethau’r Cyfryngau a Chyfathrebu
      • Astudiaethau Canoloesol
        • BA Astudiaethau Canoloesol
        • BA Gwareiddiad Clasurol ac Astudiaethau Canoloesol
        • BA Llenyddiaeth Saesneg ac Astudiaethau Canoloesol
        • BA Hanes ac Astudiaethau Canoloesol
        • BA Astudiaethau Canoloesol gyda Blwyddyn Sylfaen
      • Ieithoedd, Cyfieithu a Chyfathrebu
      • Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol
      • TESOL
      • Rhyfel a Chymdeithas
    • Cyrsiau Israddedig Peirianneg
    • Cyrsiau Israddedig Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd
    • Cyrsiau Israddedig y Gyfraith
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Meddygaeth Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Y Coleg Gwyddoniaeth
  • Diwrnodau Agored Israddedig
  • Llety
  • Sut i wneud cais am gwrs israddedig
  • Chwaraeon
  • Bywyd Myfyriwr
  • Ffioedd a Chyllid
  • Rhithdaith
  • Gwybodaeth i Rieni a Gwarcheidwaid
  • Prosbectws Israddedig
  • Pam Astudio yn Abertawe?
  • Astudio
      • Ymweld â ni Engineering Central in the sun

        Dewch i gwrdd â ni mewn diwrnod Agored

      • Israddedig
        • Cyrsiau
        • Llety
        • Diwrnodau Agored
        • Sut i wneud cais
        • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
        • Gwybodaeth i Rieni a Gwarcheidwad
      • Ôl-raddedig
        • Cyrsiau
        • Rhaglenni Ymchwil
        • Diwrnod Agored
        • Sut i Wneud Cais
        • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
        • Y Brifysgol
      • Bywyd Myfyriwr
        • Pam Abertawe
        • Bywyd y campws
        • Chwaraeon
        • Clybiau a Chymdeithasau
        • Diwrnod Agored Rhithwir
      • Gwasanaethau i Fyfyrwyr
        • Llyfrgelloedd ac Archifau
        • Chwaraeon
        • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
        • Canolfan Llwyddiant Academaidd
        • Academi Hywel Teifi
  • Ymchwil
  • Busnes
  • Cyn-fyfyrwyr
  • Y Brifysgol
      • Swyddfa'r Wasg Female student working with steel

        Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon

      • Amdanom ni
        • Bywyd y campws
        • Sut i ddod o hyd i ni
        • Gwobrau ac Anrhydeddau
        • Hanes a threftadaeth
        • Adrannau gweinyddol
        • Swyddfa'r Wasg
        • Swyddi
        • Cysylltu â ni
      • Chwaraeon
        • Cyfleusterau Chwaraeon
        • Iechyd a Ffitrwydd
        • Perfformiad ac Ysgoloriaethau
        • Chwaraeon i fyfyrwyr
        • Rhaglenni a Digwyddiadau
      • Bywyd y campws
        • Campws Parc Singleton
        • Campws y Bae
        • Ein Tiroedd
        • Chwaraeon
        • Llefydd gwych i fwyta
        • Diwrnod Agored Rhithwir
        • Datblygu'r Campws
      • Colegau Academaidd
        • Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau
        • Coleg Peirianneg
        • Gwyddorau Dynol ac Iechyd
        • Ysgol y Gyfraith
        • Yr Ysgol Reolaeth
        • Ysgol Feddygaeth
        • Y Coleg Gwyddoniaeth
        • Y Coleg
      • Academïau
        • Academi Iechyd a Llesiant
        • Academi Morgan
        • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
        • Academi Hywel Teifi
  • Newyddion
  1. Hafan
  2. Israddedig
  3. Cyrsiau Israddedig
  4. Cyrsiau Israddedig Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau
  5. Astudiaethau Canoloesol
  6. BA Astudiaethau Canoloesol

Astudiaethau Canoloesol, BA (Hons)

tef gold logo
Ymgeisio
Diwrnod Agored
Gofynnwch gwestiwn i ni

Mae 94% o raddedigion yn gweithio neu'n astudio ymhellach chwe mis ar ôl graddio

DLHE 2015

Manylion Allweddol y Cwrs

  • D.U./U.E.
3 Blynedd Llawn Amser
    • Côd UCAS V150
    • Dull Astudio Ar y Campws
    • Dyddiad Dechrau Medi 2019
    • Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall) BBB
    • Lleoliad Campws Parc Singleton
tef gold logo

Trosolwg o'r Cwrs

Darganfyddwch sut mae newidiadau cymdeithasol a thechnolegol y cyfnod canoloesol wedi dylanwadu ar gymdeithas a diwylliant modern ar y cwrs gradd BA hwn.

Byddwch yn archwilio'r cyfnod canoloesol yng nghyd-destun rhyfel, crefydd, llenyddiaeth, athroniaeth, y gyfraith a gwleidyddiaeth, gan astudio themâu a chyfnodau allweddol yr oes hynod ddiddorol hon.

Byddwch yn meithrin sgiliau ymchwil a dadansoddi ardderchog ac yn dysgu sut i gyflwyno eich syniadau'n effeithiol yn ysgrifenedig ac ar lafar.

Pam Astudiaethau Canoloesol yn Abertawe?

Mae ein Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau, sydd wedi'i leoli ar gampws godidog Parc Singleton, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe ar gyrion Penrhyn Gŵyr, yn cynnig amgylchedd addysgu a dysgu bywiog ac amrywiol.

Mae ein staff yn ymchwilwyr gweithredol ac yn arbenigo ym maes hanes syniadaeth wleidyddol, rhyfel a gwrthdaro, hanes morol ac imperialaidd, rhywedd a rhywioldeb, hanes crefydd, gwyddoniaeth a meddygaeth.

Eich Profiad Astudiaethau Canoloesol

Mae ein cynnwys cwrs amrywiol a hyblyg yn eich galluogi i deilwra eich cwrs gradd Astudiaethau Canoloesol yn unol â'ch diddordebau eich hun, ac mae ein dull gweithredu amlddisgyblaethol yn eich annog i ffurfio cysylltiadau ar draws meysydd pwnc, o athroniaeth i'r gwyddorau cymdeithasol. 

Caiff yr addysgu ei lywio gan ein hymchwil o'r radd flaenaf, a gallwch fynychu seminarau a drefnir drwy ein rhaglen siaradwyr gwadd.

Bydd gennych fentor academaidd a all roi unrhyw gymorth bugeiliol neu academaidd sydd ei angen arnoch.

Cyfleoedd Cyflogaeth Astudiaethau Canoloesol

Mae tua 94% o raddedigion yn gweithio neu'n astudio ymhellach chwe mis ar ôl graddio (DLHE 2015). Mae ein graddedigion wedi symud ymlaen i yrfaoedd mewn amrywiaeth eang o sectorau, gan gynnwys

  • Addysg
  • Treftadaeth
  • Busnes
  • Y Cyfryngau
  • Gwleidyddiaeth
  • Gwasanaethau dyngarol.

Ymwadiad Rhaglen

Prosbectws Israddedig

Darganfyddwch eich prifysgol

Ewch ar rithdaith

virtual tour

Cynnig wedi'i warantu ar gyfer 2019*

Astudio trwy’r Gymraeg

welsh medium

Gofynion Mynediad

Ein gofyniad mynediad safonol yw BBB (120 o bwyntiau tariff UCAS) neu gyfwerth. Caiff ein holl gynigion eu gwneud yn dilyn adolygiad o'r ffurflen gais, y graddau a ragwelir/enillwyd a'r pynciau, y geirda a'r datganiad personol. Rydym hefyd yn derbyn amrywiaeth o gymwysterau lefel uwch, gan gynnwys: 32 yn y Fagloriaeth Ryngwladol; Bagloriaeth Cymru – gradd sy'n gyfwerth â Safon Uwch; Cymwysterau Mynediad i Addysg Uwch a'r Brifysgol Agored, a Phrosiect Estynedig.

Rydym yn gofyn am sgôr IELTS o 6.0 fan leiaf ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn siarad Saesneg fel eu hiaith gyntaf.

Sut fyddwch chi'n cael eich dysgu

Yn ystod blwyddyn gyntaf eich astudiaethau, cewch eich addysgu drwy ddarlithoedd a thiwtorialau. Bydd y broses asesu yn cynnwys gwaith cwrs, traethawd ac arholiad.

Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn dysgu drwy seminarau a gwaith grŵp. Bydd y broses asesu yn amrywiol ac yn cynnwys gwaith cwrs, traethodau, cyflwyniadau grŵp ac arholiad.

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn cwblhau astudiaethau annibynnol drwy ddulliau ymchwilio, traethawd hir neu bortffolio ymarfer a chewch hefyd eich addysgu drwy seminarau a gwaith grŵp. Bydd y broses asesu yn cynnwys traethawd ymchwil hir annibynnol, cyflwyniad annibynnol, gwaith cwrs ac arholiad.

  • Mae ein dysgu ac addysgu yn gwella eich sgiliau allweddol, y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt mewn graddedigion, fel a ganlyn:
  • Hunanreoli (mynychu dosbarthiadau, cadw at derfynau amser, paratoi ar gyfer seminarau, traethawd hir)
  • Gweithio mewn tîm (cyflwyniadau grŵp, seminarau grŵp, teithiau astudio a phrosiectau)
  • Ymwybyddiaeth o gwsmeriaid (astudio dramor, interniaethau, lleoliadau gwaith, profiad myfyrwyr)
  • Datrys problemau (ysgrifennu traethodau, ymchwil, arholiadau)
  • Cyfathrebu a llythrennedd (traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, gwaith prosiect, traethawd hir)
  • Sgiliau rhifedd (dadansoddi data, ystadegau, graffiau, setiau data)
  • Technoleg gwybodaeth (Blackboard, traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, cyfryngau cymdeithasol)

Darpariaeth Gymraeg

Mae hawl gennych i ysgrifennu a chyflwyno eich gwaith cwrs ac i sefyll eich arholiadau yn y Gymraeg, hyd yn oed os ydych wedi dewis dilyn modiwlau cyfrwng Saesneg. Hefyd mae’n bosib i chi ddewis cael cyfweliad trwy gyfrwng y Gymraeg wrth ymgeisio am le.

Darperir rhai elfennau o’r cwrs hwn trwy gyfrwng y Gymraeg ond nid oes digon o ddarpariaeth eto i gyrraedd 40 credyd ym mhob blwyddyn. Bydd parhau i astudio trwy’r Gymraeg wedi i chi adael yr ysgol neu’r coleg yn ddatblygiad naturiol i chi ac yn fodd o sicrhau eich cyfle i gael yr addysg orau. Bydd hefyd yn ychwanegiad gwerthfawr i’ch CV a’ch datblygiad gyrfaol. Mae cyfleoedd ar gael i fyfyrwyr sy’n rhugl ac yn hyderus yn yr iaith yn ogystal ag i’r rhai sy’n llai hyderus neu sy’n ddysgwyr. Mae’n bosibl hefyd ddewis dosbarthiadau seminar a thiwtorial cyfrwng Cymraeg ar gyfer modiwlau sy’n cael eu dysgu yn bennaf drwy gyfrwng y Saesneg.

Cwrdd â'ch Darlithwyr

List

Ffioedd Dysgu

Y ffioedd dysgu blynyddol ar gyfer blwyddyn academaidd 2019/20 fydd:

D.U./U.E. Rhyngwladol
BA (Hons) Llawn Amser

Gellir codi ffioedd myfyrwyr Israddedig y DU/UE llawn amser yn chwyddiannol mewn blynyddoedd astudio i ddod. Penderfynir ar y swm gan Lywodraeth Cymru.

Bydd ffioedd ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol Israddedig yn cynyddu 3% ar gyfer pob blwyddyn ddilynol o astudio.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Myfyrwyr cyfredol: Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau

Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau.

I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gymorth ariannol sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau y Brifysgol.

Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gael gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi

Costau Ychwanegol

Gallwch wynebu costau ychwanegol yn ystod eich amser yn y Brifysgol, gan gynnwys y canlynol (ond nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr):

  • Parcio yn y cae hamdden a theithio i'r campws ac oddi yno
  • Argraffu, llungopïo, costau deunyddiau a chyfarpar ysgrifennu (e.e. cof bach)
  • Prynu llyfrau neu destunau
  • Argraffu a rhwymo
  • Gŵn ar gyfer seremonïau graddio

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe'n cefnogi myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar bob cam yn eu taith yrfaol.

Mae ein gwasanaethau cymorth gyrfaoedd yn cynnwys:

  • Gweithdai cyflogadwyedd, sgyrsiau gan gyflogwyr, digwyddiadau pwrpasol a ffeiriau gyrfaoedd
  • Cyngor ac arweiniad unigol gan Ymgynghorwyr Gyrfaoedd proffesiynol
  • Cymorth i chwilio am swyddi, interniaethau, lleoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli
  • Mynediad i adnoddau gwybodaeth am amrywiaeth eang o bynciau rheoli gyrfa
  • Cyngor ac arweiniad ar astudio a chyllid i fyfyrwyr ôl-raddedig.
  • Ariannu i gefnogi cyfleoedd interniaethau myfyrwyr a digwyddiadau Cymdeithasau/Clybiau Myfyrwyr

Rydym hefyd yn darparu cymorth a chyngor i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe am hyd at bum mlynedd ar ôl iddynt raddio.

Cymorth Academaidd

Yn ogystal â chymorth pwnc penodol gan staff addysgu'r coleg a'ch mentor academaidd personol, mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un-i-un mewn meysydd fel:

  • Ysgrifennu academaidd
  • Mathemateg ac ystadegau
  • Meddwl critigol
  • Rheoli amser
  • Sgiliau digidol
  • Sgiliau cyflwyno
  • Cymryd nodiadau
  • Technegau adolygu, dysgu ar gof ac arholiadau
  • Sgiliau Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf)

Yn ogystal, os oes gennych Anhawster Dysgu Penodol (ADP/SpLD), anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr meddygol, mae gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd Diwtoriaid Arbenigol i gefnogi'ch dysgu. Bydd y tiwtoriaid yn gweithio ochr yn ochr â'r Swyddfa Anabledd a'r Gwasanaeth Lles i gefnogi eich holl anghenion a gofynion tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae ein myfyrwyr yn bwysig i ni a'n nod yw sicrhau eich bod yn ennill y dosbarth gradd gorau. Mae gennym system mentora personol lle y dyrennir mentor academaidd i chi. Mae gennym hefyd bolisi "drws agored" lle mae ein hathrawon academaidd ar gael i siarad â chi ar unrhyw adeg am unrhyw ymholiadau neu bryderon academaidd a allai fod gennych.

Cyfleoedd Byd-eang

Efallai bod gennych eisoes y cyfle i astudio neu weithio dramor fel rhan o’ch gradd, ond gallwch hefyd ystyried rhaglen haf ryngwladol.

Mae'r rhaglenni ar agor i fyfyrwyr israddedig y Brifysgol ac ymhlith yr opsiynau mae teithiau astudio a diwylliannol, rhaglenni gwirfoddoli ac interniaethau ledled gwledydd tramor fel Tsieina, Sambia, De Corea, Siapan, Ewrop a Chanada. Fel rheol, mae rhaglenni dros gyfnod o 2 – 6 wythnos ac mae cyllid ar gael. Am fwy o wybodaeth ewch i Rhaglenni Haf.

Caiff pob un o'n myfyrwyr yr opsiwn o astudio dramor. Mae ein rhaglenni pedair blynedd yn cynnig blwyddyn lawn dramor ac rydym hefyd yn cynnig tymor dramor ar gyfer cyrsiau gradd tair blynedd, yn ystod eich ail flwyddyn o fis Ionawr i fis Mai yn Hong Kong, Singapôr ac UDA. Rhaglen gyfnewid yw'r tymor dramor felly byddwch yn talu ffioedd dysgu'r DU a byddwch yn gyfrifol am gostau llety a byw yn y sefydliad partner am y tymor hwnnw.

Sut i wneud cais

Gwnewch gais nawr - myfyrwyr y DU, UE a rhyngwladol.

Cewch wybod mwy drwy ymweld â'n tudalen ar sut i wneud cais

Astudiaethau Canoloesol

  • Colegau Academaidd
  • Cyrsiau Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau
      • Astudiaethau Americanaidd
      • Clasuron, Hanes Hynafol ac Aifft
      • Adran y Gymraeg
      • Ysgol Addysg
      • Iaith Saesneg
      • Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol
      • Hanes
      • Astudiaethau’r Cyfryngau a Chyfathrebu
      • Astudiaethau Canoloesol
        • BA Astudiaethau Canoloesol
        • BA Gwareiddiad Clasurol ac Astudiaethau Canoloesol
        • BA Llenyddiaeth Saesneg ac Astudiaethau Canoloesol
        • BA Hanes ac Astudiaethau Canoloesol
        • BA Astudiaethau Canoloesol gyda Blwyddyn Sylfaen
      • Ieithoedd, Cyfieithu a Chyfathrebu
      • Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol
      • TESOL
      • Rhyfel a Chymdeithas
    • Cyrsiau Israddedig Peirianneg
    • Cyrsiau Israddedig Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd
    • Cyrsiau Israddedig y Gyfraith
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Meddygaeth Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Y Coleg Gwyddoniaeth
  • Diwrnodau Agored Israddedig
  • Llety
  • Sut i wneud cais am gwrs israddedig
  • Chwaraeon
  • Bywyd Myfyriwr
  • Ffioedd a Chyllid
  • Rhithdaith
  • Gwybodaeth i Rieni a Gwarcheidwaid
  • Prosbectws Israddedig
  • Pam Astudio yn Abertawe?
Ymgeisio Diwrnod Agored
  • Cysylltwch â ni
  • Swyddi
  • Colegau
  • Y Wasg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Ymwadiad a Hawlfraint
  • Map o'r Safle
  • Preifatrwydd a Chwcis
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342
  • Facebook link
  • Instagram link
  • Twitter link
  • youtube link
  • flickr link
  • linkedin link