Trosolwg o'r Cwrs
Astudiwch y Cyfryngau a Sbaeneg gyda ni a byddwch yn dysgu sgiliau ymarferol a fydd yn eich galluogi i ddilyn gyrfa gyffrous ym maes y cyfryngau, marchnata neu feysydd cysylltiedig, yn ogystal ag astudio Sbaeneg a llenyddiaeth a diwylliant Sbaen, gan arwain at amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa rhyngwladol ehangach.
Cewch gyfle i ddysgu am gynhyrchu radio a fideo, cyfryngau digidol a chymdeithasol, newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus, brandio, marchnata a mwy, gan ddysgu gan weithwyr proffesiynol profiadol yn y diwydiant ac academyddion blaenllaw.
Byddwch hefyd yn astudio pynciau sy'n gysylltiedig â Sbaeneg gan gynnwys cyfieithu ac addysgu iaith, a byddwch yn cael budd o dreulio blwyddyn yn Sbaen yn astudio mewn prifysgol, yn addysgu mewn ysgol neu'n gweithio mewn busnes.