Trosolwg o'r Cwrs
Mae Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferwr y Blynyddoedd Cynnar (EYPS) yn cynnig ymagwedd gyfannol at ddeall plant o enedigaeth hyd at wyth mlwydd oed. Mae’n nodi pwysigrwydd plentyndod cynnar fel cyfnod sylweddol ym mywyd sy’n sail i ddysgu gydol oes, lle gellir ystyried plant yn aelodau galluog a medrus o gymdeithas.
Mae'r flwyddyn sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, gan archwilio'r dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol cyn symud ymlaen i'r rhaglen radd lawn. Mae'n ddelfrydol os oes angen mwy o gymorth arnoch ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i addysg ar ôl seibiant.
Ar y cwrs, hwn bydd myfyrwyr yn treulio 700 awr (tua 20 wythnos) ar leoliad gwaith mewn lleoliadau plentyndod cynnar ac mae gofyniad arnynt i ddangos gallu mewn Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a osodwyd gan Ofal Cymdeithasol Cymru. Bydd graddedigion yn cymhwyso gan ennill cymhwyster Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar a ddyfernir gan Ofal Cymdeithasol Cymru.