Trosolwg o'r Cwrs
Mae Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferwr y Blynyddoedd Cynnar (EYPS) yn cynnig ymagwedd gyfannol at ddeall plant o enedigaeth hyd at 8 mlwydd oed. Mae’n nodi pwysigrwydd plentyndod cynnar fel cyfnod sylweddol ym mywyd sy’n sail i ddysgu gydol oes, lle gellir ystyried plant yn aelodau galluog a medrus o gymdeithas. Ar y cwrs hwn, byddwch yn treulio 700 o oriau ar leoliad mewn lleoliadau plentyndod cynnar.
Ar y cwrs, hwn bydd myfyrwyr yn treulio 700 awr (tua 20 wythnos) ar leoliad gwaith mewn lleoliadau plentyndod cynnar ac mae gofyniad arnynt i ddangos gallu mewn Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a osodwyd gan Ofal Cymdeithasol Cymru. Bydd graddedigion yn cymhwyso gan ennill cymhwyster Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar a ddyfernir gan Ofal Cymdeithasol Cymru.
Ewch i’n tudalen hafan yma