Trosolwg o'r Cwrs
Ar ein gradd Rhyfel a Chymdeithas gyda Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn archwilio heriau dynol allweddol rhyfel, heddwch a gwrthdaro, gan agor drws i ystod o bosibiliadau gyrfaol cyffrous drwy eich helpu i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy, y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi'n fawr.
Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn rhoi cyflwyniad i chi i addysg uwch, gan ymchwilio'r dyniaethau a gwyddorau cymdeithasol cyn symud ymlaen i raglen radd lawn. Mae'n ddelfrydol os oes angen ychydig o gefnogaeth arnoch ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i addysg ar ôl cyfnod y tu allan i addysg.
Caiff y radd hon ei haddysgu gan academyddion blaenllaw sy'n ymchwilwyr arbenigol mewn pynciau megis Astudiaethau Americanaidd, Astudiaethau Clasurol ac Eifftaidd, Hanes, Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, Llenyddiaeth, ac Astudiaethau'r Cyfryngau.
Mae cyfle i chi dreulio semester yn astudio dramor yn Hong Kong, Tsieina neu Singapôr – profiad cyffrous a gwerthfawr a fydd yn gwella'ch rhagolygon gyrfa ymhellach.