Trosolwg o'r Cwrs
Llenyddiaeth Saesneg yw un o’r disgyblaethau mwyaf amrywiol a heriol rydym ni’n ei chynnig ac rydym yn ail yn y DU ar gyfer rhagolygon graddedigion (The Guardian University Guide 2016).
Mae’n meithrin sensitifrwydd at iaith ac yn ceisio ateb rhai cwestiynau ysgogol.
Mae hefyd yn agor drysau i amrywiaeth o bosibiliadau gyrfa cyffrous, gan eich helpu i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Bydd hefyd gennych gyfle i dreulio blwyddyn yn astudio yn UDA neu yn Ewrop, gan wella eich rhagolygon gyrfa ymhellach.
Mae’n cwrs ni’n cynnwys mil o flynyddoedd o lenyddiaeth, o Beowulf i lenyddiaeth gyfoes. Gallwch ymchwilio i lenyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys llenyddiaeth y Dadeni, ffuglen Gothig a genres eraill, llenyddiaeth y 19eg ganrif hyd at lenyddiaeth fodern a chyfoes. Mae pynciau cyffrous eraill yn cynnwys rhywedd a diwylliant ac ysgrifennu proffesiynol a chreadigol.