Rydym wedi newid rhai agweddau ar y ffordd rydym yn addysgu eleni, a bydd mwy o weithgareddau nag arfer yn cael eu cynnal ar-lein.
Mae calendr y Brifysgol wedi’i rannu’n flociau. Mae Bloc Addysgu Un yn para o fis Medi tan fis Ionawr ac yn ystod y bloc hwn eleni byddwch yn cael eich addysgu mewn ffordd ‘gyfunol’. Mae hyn yn golygu y bydd rhai o’ch gweithgareddau addysgu ar-lein a rhai ar y campws. Gyda’r addysgu ar-lein, er na fyddwch yn yr un ystafell â’r darlithydd, gall y gweithgarwch fod yn ‘fyw’ a bydd gennych gyfle i ryngweithio. Bydd rhai o’ch gweithgareddau’n hunan-gyfeiriedig sy’n golygu eich bod yn gallu cyrchu’r deunyddiau dysgu ar adeg sy’n gyfleus i chi.
Bydd eich sesiynau wyneb yn wyneb ar y campws yn gymysgedd o:
Grwpiau astudio a gweithdai rhaglenni
Seminarau pwnc
Gweithdai sgiliau astudio
Digwyddiadau sefydlu ac ymgynefino
Cyfarfodydd unigol gyda’ch Mentor Academaidd
Ymgynghori â staff ac oriau swyddfa
Goruchwyliaeth traethawd estynedig (myfyrwyr y flwyddyn olaf ac ôl-raddedig a addysgir)
Gall eich dysgu ac addysgu ar-lein gynnwys:
Darlithoedd byw wedi’u ffrydio
Seminarau, gweithdai a thiwtorialau modiwl
Cyfarfodydd unigol gyda’ch Mentor Academaidd
Ymgynghori â staff ac oriau swyddfa
Digwyddiadau cymunedol i staff a myfyrwyr
Goruchwylio traethawd estynedig (myfyrwyr y flwyddyn olaf ac ôl-raddedig a addysgir)
Bydd dysgu hunan-gyfeiriedig yn cynnwys:
Deunyddiau astudio wedi’u trefnu
Gweithgareddau astudio hunan-gyfeiriedig
Darllen paratoadol a phellach
Darlithoedd wedi’u recordio
Profion a chwisiau ffurfiannol
Astudio annibynnol yn y llyfrgell
Astudio annibynnol yn y labordai cyfrifiaduron
Cyfarfodydd Grŵp Dylunio