Trosolwg o'r Cwrs
Mae astudio Astudiaethau Americanaidd a Hanes yn golygu dysgu am ddiwylliant, hanes a gwleidyddiaeth y wlad fwyaf dylanwadol yn y byd, ochr yn ochr â llawer o agweddau ar hanes Prydain, Ewrop a'r byd.
Mae ein cwrs gradd BA tair blynedd yn cynnig amrywiaeth o bosibiliadau gyrfa cyffrous drwy eich helpu i feithrin sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn rhoi llawer o werth arnynt.
Byddwch yn cael cyfle i astudio hanes, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a diwylliant America, o wladychu i arlywyddiaeth Donald Trump, ac amrywiaeth o bynciau ym maes hanes o'r Croesgadau i'r Dadeni, i Ewrop yn yr 20fed ganrif.
Mae Astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Abertawe yn y safle uchaf yn y DU am foddhad myfyrwyr (Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr, Complete University Guide 2018) ac mae Hanes wedi cael sgôr o 93% (Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2017).