Trosolwg o'r Cwrs
Mae Gwareiddiad Clasurol a Llenyddiaeth Saesneg yn cwmpasu amrywiaeth eang o fodiwlau'n ymwneud â diwylliannau'r gorffennol gan gynnwys y bydoedd Groegaidd a Rhufeinig a'u heffaith ar Lenyddiaeth Saesneg. Mae'r cwrs gradd cydanrhydedd BA tair blynedd hwn yn cynnig amrywiaeth o bosibiliadau gyrfa cyffrous drwy eich helpu i feithrin sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn rhoi llawer o werth arnynt.
Mae diwylliannau Groeg a Rhufain wedi cael effaith fawr ar wareiddiad y gorllewin a'i lenyddiaeth. Byddwch yn archwilio sawl agwedd ar y bydoedd Groegaidd a Rhufeinig gan gynnwys mytholeg, hanes a chymdeithas, ffuglen gothig a phoblogaidd, rhywedd a diwylliant, llenyddiaeth o gyfnod y Dadeni, llenyddiaeth genedlaethol a byd-eang ac ysgrifennu creadigol a phroffesiynol.
Cewch gyfle i ystyried ac archwilio gwareiddiadau a all ymddangos yn hen iawn ond sy'n dal i gael dylanwad yn yr 21ain ganrif.
Mae Prifysgol Abertawe yn y 10 uchaf yn y Guardian University Guide (Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2018), a byddwch yn cael cyfle i dreulio tymor yn astudio dramor naill ai yn UDA, Canada, Tsieina, Hong Kong neu Singapôr yn ystod yr ail flwyddyn, gan wella eich profiad fel myfyriwr a'ch rhagolygon gyrfa ymhellach.