Trosolwg o'r Cwrs
Mae Eifftoleg gyda Blwyddyn Sylfaen yn cynnwys astudio iaith, llenyddiaeth, hanes a diwylliant yr Hen Aifft. Bydd astudio'r rhaglen pedair blynedd hon yn agor drysau i amrywiaeth eang o bosibiliadau gyrfaol drwy eich helpu i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy, y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Mae ein blwyddyn sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, gan archwilio'r dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol cyn symud ymlaen at y rhaglen radd lawn. Mae'n ddelfrydol os oes angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi neu os ydych chi'n dychwelyd at addysg yn dilyn saib.
Byddwch yn archwilio celf a phensaernïaeth Eifftaidd, hanes a gwareiddiad yr Hen Aifft, ac archeoleg, crefydd, rhyw a rhywedd, Yr Hen Aifft a'r Aifft Ganol a dysgu iaith yr Hen Aifft.
Mae Eifftoleg gyda Blwyddyn Sylfaen yn Abertawe yn gyntaf yn y DU ar gyfer boddhad myfyrwyr (Complete University Guide 2018) a bydd gennych y cyfle i dreulio semester dramor yn ystod yr ail flwyddyn yn UDA, Canada, Tsieina, Hong Kong neu Singapôr i wella eich profiad fel myfyriwr a'ch rhagolygon gyrfa.