Sgip i brif cynnwys Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
Menu Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
  1. Hafan
  2. Israddedig
  3. Cyrsiau Israddedig
  4. Cyrsiau Israddedig Coleg Y Celfyddydau a'r Dyniaethau
  5. Astudiaethau Americanaidd
  6. BA Astudiaethau Americanaidd a Llenyddiaeth Saesneg
  • Astudio
    • Mynediad mis Ionawr 2021
      Student Life

      100 o gyrsiau israddedig ar gael.

      Dysgwch mwy
    • Israddedig
      • Cyrsiau
      • Llety
      • Diwrnodau Agored
      • Sut i wneud cais
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Rhieni a Gwarcheidwaid
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Clirio ym Abertawe
    • Ôl-raddedig
      • Cyrsiau
      • Rhaglenni Ymchwil
      • Diwrnod Agored
      • Sut i Wneud Cais
      • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
      • Y Brifysgol
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
    • Bywyd Myfyriwr
      • Astudio
      • Pam Abertawe
      • Bywyd y campws
      • Chwaraeon
      • Cynaliadwyedd - Cymrwch Ran
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
      • Taith Rhithwir
      • Beth yw Pythefnos y Glas?
    • Gwasanaethau i Fyfyrwyr
      • Llyfrgelloedd ac Archifau
      • BywydCampws
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
      • Menter Myfyrwyr
      • Canolfan Llwyddiant Academaidd
      • Academi Hywel Teifi
      • Llesiant myfyrwyr
  • Rhyngwladol
  • Ymchwil
  • Busnes
  • Cyn-fyfyrwyr
  • Y Brifysgol
    • Swyddfa'r Wasg
      Female student working with steel

      Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon

      Darllenwch y newyddion diweddaraf yma
    • Y Brifysgol
      • Amdanom ni
      • Sut i ddod o hyd i ni
      • Gwobrau ac Anrhydeddau
      • Canmlwyddiant 2020
      • Swyddfa'r Wasg
      • Swyddi a Gweithio yn Abertawe
      • Cynaliadwyedd
      • Teithio i’r campws ac oddi yno
      • Cysylltu â ni
    • Chwaraeon
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Iechyd a Ffitrwydd
      • Perfformiad ac Ysgoloriaethau
      • Chwaraeon i fyfyrwyr - Chwaraeon Myfyriwr
      • Rhaglenni a Digwyddiadau
    • Bywyd y campws
      • Llefydd i Fwyta ar Gampws
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Y Neuadd Fawr
      • Taliesin
      • Creu Taliesin
      • Ein Tiroedd
      • Cerddoriaeth
      • Rhithdaith
    • Colegau Academaidd
      • Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau
      • Coleg Peirianneg
      • Gwyddorau Dynol ac Iechyd
      • Ysgol y Gyfraith
      • Yr Ysgol Reolaeth
      • Ysgol Feddygaeth
      • Y Coleg Gwyddoniaeth
      • Y Coleg
    • Academïau
      • Academi Iechyd a Llesiant
      • Academi Morgan
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
      • Academi Hywel Teifi
      • Academi Cynwysoldeb a Llwyddiant Dysgwyr Abertawe (SAILS)
  • Newyddion a Digwyddiadau
  • Cefnogaeth a Lles
  1. Hafan
  2. Israddedig
  3. Cyrsiau Israddedig
  4. Cyrsiau Israddedig Coleg Y Celfyddydau a'r Dyniaethau
  5. Astudiaethau Americanaidd
  6. BA Astudiaethau Americanaidd a Llenyddiaeth Saesneg

Llenyddiaeth Saesneg ac Astudiaethau Americanaidd, BA (Hons)

Tudalennau cysylltiedig
  • Colegau Academaidd
  • Cyrsiau Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Coleg Y Celfyddydau a'r Dyniaethau
      • Astudiaethau Americanaidd
        • BA Astudiaethau Americanaidd
        • BA Astudiaethau Americanaidd a Llenyddiaeth Saesneg
        • BA Astudiaethau Americanaidd a Hanes
        • Astudiaethau Americanaidd a Chysylltiadau Rhyngwladol
        • Astudiaethau Americanaidd a Gwleidyddiaeth
        • BA Astudiaethau Americanaidd gyda Blwyddyn Sylfaen
      • Clasuron, Hanes Hynafol ac Aifft
      • Adran y Gymraeg
      • Ysgol Addysg
      • Iaith Saesneg
      • Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol
      • Hanes
      • Astudiaethau’r Cyfryngau a Chyfathrebu
      • Astudiaethau Canoloesol
      • Ieithoedd, Cyfieithu a Chyfathrebu
      • Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol
      • TESOL
      • Rhyfel a Chymdeithas
    • Cyrsiau Israddedig Peirianneg
    • Cyrsiau Israddedig Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd
    • Cyrsiau Israddedig y Gyfraith
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Meddygaeth Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Y Coleg Gwyddoniaeth
    • Cyrsiau Is-raddedig yn dod yn fuan!
    • Gofynion mynediad
  • Cysylltu â'r tîm derbyn israddedig
  • Diwrnodau Agored Israddedig
  • Llety
  • Sut i wneud cais am gwrs israddedig
  • Chwaraeon
  • Bywyd Myfyriwr
  • Ffioedd a Chyllid
  • Gwnewch Gais am 2021
  • Mynediad ym mis Ionawr ar gyfer Israddedigion
  • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
  • Rhithdaith
  • Gwybodaeth i Rieni a Gwarcheidwaid
  • Prosbectws Israddedig
  • Pam Astudio yn Abertawe?
  • Beth yw UCAS Extra? Eich canllaw cynhwysfawr
  • Clirio
  • Newidiadau rhaglen israddedig
  • Athrawon ac Ymgynghorwyr
  • Graddau Asesiad Canol
tef gold logo
Ymgeisio

O ble ydych chi'n gwneud cais?

Gwneud cais fel myfyriwr o'r DU neu'r UE?

Dylai pob myfyriwr y DU neu'r UE wneud cais drwy UCAS

Ewch i UCAS

Gwneud cais fel myfyriwr rhyngwladol?

Mae gennym System Gwneud Cais uniongyrchol rhwydd a chyflym i fyfyrwyr rhyngwladol.

Ewch i'r System Gwneud Cais

Gall myfyrwyr rhyngwladol hefyd wneud cais drwy UCAS

Diwrnod Agored
Cadwch Mewn Cysylltiad
mount rushmore

3ydd yn y DU am Astudiaethau Americanaidd

The Guardian University Guide 2021

Manylion Allweddol y Cwrs

  • D.U.
  • U.E.
  • Rhyngwladol
3 Blynedd Llawn Amser
Côd UCAS
QT37
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
BBB
Lleoliad
Campws Parc Singleton
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2021 £ 9,000
4 Blynedd Llawn Amser Gyda Blwyddyn Dramor
Côd UCAS
TQ73
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
BBB
Lleoliad
Campws Parc Singleton
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2021 £ 9,000
3 Blynedd Llawn Amser
Côd UCAS
QT37
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
BBB
Lleoliad
Campws Parc Singleton
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2021 £ 15,400
4 Blynedd Llawn Amser Gyda Blwyddyn Dramor
Côd UCAS
TQ73
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
BBB
Lleoliad
Campws Parc Singleton
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2021 £ 15,550
3 Blynedd Llawn Amser
Côd UCAS
QT37
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol
BBB - Gwybodaeth Rhagor
Lleoliad
Campws Parc Singleton
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2021 £ 15,400
4 Blynedd Llawn Amser Gyda Blwyddyn Dramor
Côd UCAS
TQ73
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol
BBB - Gwybodaeth Rhagor
Lleoliad
Campws Parc Singleton
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2021 £ 15,550
tef gold logo

Trosolwg o'r Cwrs

Mae astudio Astudiaethau Americanaidd a Llenyddiaeth Saesneg yn golygu dysgu am ddiwylliant, hanes a gwleidyddiaeth y wlad fwyaf dylanwadol yn y byd, ochr yn ochr â llawer o agweddau ar lenyddiaeth Saesneg ac ysgrifennu creadigol.

Mae ein cwrs gradd BA tair blynedd yn cynnig amrywiaeth o bosibiliadau gyrfa cyffrous drwy eich helpu i feithrin sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn rhoi llawer o werth arnynt.

Byddwch yn cael cyfle i astudio hanes, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a diwylliant America, o wladychu i arlywyddiaeth Donald Trump, ac amrywiaeth o bynciau ym maes llenyddiaeth Saesneg, o ffuglen genre a gothig i ysgrifennu creadigol.

Mae Astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Abertawe yn y safle uchaf yn y DU am foddhad myfyrwyr (Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr, Complete University Guide 2018) ac mae Llenyddiaeth Saesneg yn y seithfed safle yn y DU am ansawdd ymchwil (REF 2014).

Pam Llenyddiaeth Saesneg ac Astudiaethau Americanaidd yn Abertawe?

Mae pwnc Astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Abertawe, sydd wedi'i leoli ar gampws godidog Parc Singleton, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe ar gyrion Penrhyn Gŵyr, yn y safleoedd canlynol:

  • 3ydd yn y Guardian University Guide ar gyfer 2021

Mae Llenyddiaeth Saesneg yn y safleoedd canlynol:

  • 7fed yn y DU am ansawdd ymchwil yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (REF 2014-2021).

Bydd gennych opsiwn o dreulio semester yn UDA, gan gyfoethogi eich profiad fel myfyriwr a'ch rhagolygon gyrfa ymhellach.

Bydd athrawon gwadd o brifysgolion yn America yn cynnig modiwlau fel rhan o'ch cwrs gradd, ac mae dros 150 o fyfyrwyr o America yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe bob blwyddyn, sy'n eich galluogi i fanteisio ar rwydwaith parod o gysylltiadau sy'n ymestyn ledled UDA.

Cewch eich addysgu gan ysgrifenwyr profiadol sydd ag enw da sefydledig y mae eu gwaith wedi cael ei gyhoeddi, ei ddarlledu a'i berfformio'n eang a staff academaidd sy'n gydnabyddedig yn rhyngwladol am eu hymchwil.

Gallwch fod yn rhan o brosiectau gyda Chanolfan Dylan Thomas a National Theatre Wales.

Eich Profiad Llenyddiaeth Saesneg ac Astudiaethau Americanaidd

Rydym yn cynnig cynnwys cwrs amrywiol a hyblyg, felly gallwch lywio eich cwrs gradd mewn Astudiaethau Americanaidd a Llenyddiaeth Saesneg mewn ffordd sy'n gweddu i'ch diddordebau eich hun.

Ymhlith y pynciau mae ffilmiau Americanaidd, cerddoriaeth, hil, rhywedd, ymfudo a threfoli, hanes cymdeithasol, economaidd a milwrol, terfysgaeth, neu hawliau sifil a phrotest wleidyddol; ffuglen genre a gothig, llenyddiaeth y dadeni, llenyddiaeth genedlaethol a byd-eang, modernrwydd ac ysgrifennu cyfoes, llenyddiaeth y 19eg ganrif, ysgrifennu creadigol ac ysgrifennu proffesiynol.

Caiff yr addysgu ei lywio gan ein hymchwil o'r radd flaenaf, a gallwch fynychu seminarau a drefnir drwy ein rhaglen siaradwyr gwadd.

Bydd gennych fentor academaidd a all roi unrhyw gymorth bugeiliol neu academaidd sydd ei angen arnoch, ac mae Cymdeithas y Myfyrwyr Astudiaethau Americanaidd a Chymdeithas y Myfyrwyr Saesneg yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Llenyddiaeth Saesneg ac Astudiaethau Americanaidd

Rhestrir Astudiaethau Americanaidd yn y 5 Uchaf (3ydd) ar gyfer Rhagolygon Gyrfa yn y Times Higher Good University Guide 2021.

Bydd myfyrwyr ar y cwrs hwn fel arfer yn meithrin sgiliau llafar ac ysgrifennu rhagorol a byddwch yn dysgu sut i gyflwyno eich syniadau mewn amrywiaeth o fformatau, ynghyd â sgiliau ymchwilio, dadansoddi a datrys problemau cadarn.

Mae ein graddedigion yn symud ymlaen i yrfaoedd mewn amrywiaeth eang o sectorau, gan gynnwys:

  • Addysg
  • Marchnata
  • Y Llywodraeth
  • Ymchwil
  • Rheoli digwyddiadau

Ymwadiad Rhaglen

Prosbectws Israddedig

Darganfyddwch eich prifysgol

Ewch ar rithdaith

virtual tour

Cynnig wedi'i warantu ar gyfer 2020*

Astudio trwy’r Gymraeg

welsh medium

Manyleb Rhaglen

Gofynion Mynediad

Ein gofyniad mynediad safonol yw BBB (120 o bwyntiau tariff UCAS) neu gyfwerth. Caiff ein holl gynigion eu gwneud yn dilyn adolygiad o'r ffurflen gais, y graddau a ragwelir/enillwyd a'r pynciau, y geirda a'r datganiad personol. Rydym hefyd yn derbyn amrywiaeth o gymwysterau lefel uwch, gan gynnwys: 32 yn y Fagloriaeth Ryngwladol; Bagloriaeth Cymru – gradd sy'n gyfwerth â Safon Uwch; Cymwysterau Mynediad i Addysg Uwch a'r Brifysgol Agored, a Phrosiect Estynedig.

Rydym yn gofyn am sgôr IELTS o 6.0 fan leiaf ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn siarad Saesneg fel eu hiaith gyntaf.

Sut byddwch chi'n cael eich dysgu

Diweddariad Covid-19 - Darllenwch y 'Diweddariad Covid Dysgu ac Addysgu' isod.

Yn ystod blwyddyn gyntaf eich astudiaethau, cewch eich addysgu drwy ddarlithoedd a thiwtorialau. Bydd y broses asesu yn cynnwys gwaith cwrs, traethawd ac arholiad.

Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn dysgu drwy seminarau a gwaith grŵp. Bydd y broses asesu yn amrywiol ac yn cynnwys gwaith cwrs, traethodau, cyflwyniadau grŵp ac arholiad.

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn cwblhau astudiaethau annibynnol drwy ddulliau ymchwilio, traethawd hir neu bortffolio ymarfer a chewch hefyd eich addysgu drwy seminarau a gwaith grŵp. Bydd y broses asesu yn cynnwys traethawd ymchwil hir annibynnol, cyflwyniad annibynnol, gwaith cwrs ac arholiad.

Mae ein dysgu ac addysgu yn gwella eich sgiliau allweddol, y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt mewn graddedigion, fel a ganlyn:

  • Hunanreoli (mynychu dosbarthiadau, cadw at derfynau amser, paratoi ar gyfer seminarau, traethawd hir)
  • Gweithio mewn tîm (cyflwyniadau grŵp, seminarau grŵp, teithiau astudio a phrosiectau)
  • Ymwybyddiaeth o gwsmeriaid (astudio dramor, interniaethau, lleoliadau gwaith, profiad myfyrwyr)
  • Datrys problemau (ysgrifennu traethodau, ymchwil, arholiadau)
  • Cyfathrebu a llythrennedd (traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, gwaith prosiect, traethawd hir)
  • Sgiliau rhifedd (dadansoddi data, ystadegau, graffiau, setiau data)
  • Technoleg gwybodaeth (Blackboard, traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, cyfryngau cymdeithasol)

Darpariaeth Gymraeg

Mae hawl gennych i ysgrifennu a chyflwyno eich gwaith cwrs ac i sefyll eich arholiadau yn y Gymraeg, hyd yn oed os ydych wedi dewis dilyn modiwlau cyfrwng Saesneg. Hefyd mae’n bosib i chi ddewis cael cyfweliad trwy gyfrwng y Gymraeg wrth ymgeisio am le.

Darperir rhai elfennau o’r cwrs hwn trwy gyfrwng y Gymraeg ond nid oes digon o ddarpariaeth eto i gyrraedd 40 credyd ym mhob blwyddyn. Bydd parhau i astudio trwy’r Gymraeg wedi i chi adael yr ysgol neu’r coleg yn ddatblygiad naturiol i chi ac yn fodd o sicrhau eich cyfle i gael yr addysg orau. Bydd hefyd yn ychwanegiad gwerthfawr i’ch CV a’ch datblygiad gyrfaol. Mae cyfleoedd ar gael i fyfyrwyr sy’n rhugl ac yn hyderus yn yr iaith yn ogystal ag i’r rhai sy’n llai hyderus neu sy’n ddysgwyr. Mae’n bosibl hefyd ddewis dosbarthiadau seminar a thiwtorial cyfrwng Cymraeg ar gyfer modiwlau sy’n cael eu dysgu yn bennaf drwy gyfrwng y Saesneg.

Cwrdd â'ch Darlithwyr

  • Dr Emel Akcali
  • Sonja Amadae
  • Dr Davis Anderson
  • Yr Athro Roland Axtmann
  • Yr Athro David Bewley-Taylor
  • Robert Bideleux
  • Yr Athro Jonathan Bradbury
  • Dr Themis Chronopoulos
  • Dr Gerard Clarke
  • Yr Athro Alan Collins
  • Dr Dion Curry
  • Martin Horton Edison
  • Dr Ekaterina  Kolpinskaya
  • Paddy McQueen
  • Dr Stephen McVeigh
  • Dr Eugene Miakinkov
  • Dr Cahir O'Doherty
  • Dr Gerry Oram
  • Dr Krijn Peters
  • Dr Bettina Petersohn
  • Yr Athro Michael Sheehan
  • Dr Luca Trenta
  • James Wakefield
  • Dr Matthew Wall
  • Dr Bryn Willcock

Ffioedd Dysgu

3 Blynedd Llawn Amser

Dyddiad Dechrau D.U. U.E. Rhyngwladol
Medi 2020 £ 9,000 £ 9,000 £ 14,950
Medi 2021 £ 9,000 £ 15,400 £ 15,400

4 Blynedd Llawn Amser Gyda Blwyddyn Dramor

Dyddiad Dechrau D.U. U.E. Rhyngwladol
Medi 2020 £ 9,000 £ 9,000 £ 15,100
Medi 2021 £ 9,000 £ 15,550 £ 15,550

Gellir codi ffioedd myfyrwyr Israddedig y DU llawn amser yn chwyddiannol mewn blynyddoedd astudio i ddod. Penderfynir ar y swm gan Lywodraeth Cymru.

Bydd ffioedd ar gyfer myfyrwyr UE/Rhyngwladol Israddedig yn cynyddu 3% ar gyfer pob blwyddyn ddilynol o astudio.

Yn ystod blwyddyn ryngol (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn dramor neu flwyddyn lleoliad), bydd ffi is yn gymwys. Am ragor o wybodaeth ewch i'n tudalen ffioedd dysgu.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Myfyrwyr cyfredol: Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Ariannu ac Ysgoloriaethau

Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau.

I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gymorth ariannol sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gael gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi

Costau Ychwanegol

Bydd mynediad i'ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i'ch galluogi i ymgysylltu'n llawn â'ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i'w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu'ch dyfais.

Efallai y byddwch chi'n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Teithio i'r campws ac oddi yno
  • Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
  • Prynu llyfrau neu werslyfrau
  • Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe'n cefnogi myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar bob cam yn eu taith yrfaol.

Mae ein gwasanaethau cymorth gyrfaoedd yn cynnwys:

  • Gweithdai cyflogadwyedd, sgyrsiau gan gyflogwyr, digwyddiadau pwrpasol a ffeiriau gyrfaoedd
  • Cyngor ac arweiniad unigol gan Ymgynghorwyr Gyrfaoedd proffesiynol
  • Cymorth i chwilio am swyddi, interniaethau, lleoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli
  • Mynediad i adnoddau gwybodaeth am amrywiaeth eang o bynciau rheoli gyrfa
  • Cyngor ac arweiniad ar astudio a chyllid i fyfyrwyr ôl-raddedig.
  • Ariannu i gefnogi cyfleoedd interniaethau myfyrwyr a digwyddiadau Cymdeithasau/Clybiau Myfyrwyr

Rydym hefyd yn darparu cymorth a chyngor i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe am hyd at bum mlynedd ar ôl iddynt raddio.

Cymorth Academaidd

Yn ogystal â chymorth pwnc penodol gan staff addysgu'r coleg a'ch mentor academaidd personol, mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un-i-un mewn meysydd fel:

  • Ysgrifennu academaidd
  • Mathemateg ac ystadegau
  • Meddwl critigol
  • Rheoli amser
  • Sgiliau digidol
  • Sgiliau cyflwyno
  • Cymryd nodiadau
  • Technegau adolygu, dysgu ar gof ac arholiadau
  • Sgiliau Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf)

Yn ogystal, os oes gennych Anhawster Dysgu Penodol (ADP/SpLD), anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr meddygol, mae gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd Diwtoriaid Arbenigol i gefnogi'ch dysgu. Bydd y tiwtoriaid yn gweithio ochr yn ochr â'r Swyddfa Anabledd a'r Gwasanaeth Lles i gefnogi eich holl anghenion a gofynion tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae ein myfyrwyr yn bwysig i ni a'n nod yw sicrhau eich bod yn ennill y dosbarth gradd gorau. Mae gennyn system mentora personol lle y dyrennir mentor academaidd i chi. Mae gennym hefyd bolisi "drws agored" lle mae ein hathrawon academaidd ar gael i siarad â chi ar unrhyw adeg am unrhyw ymholiadau neu bryderon academaidd a allai fod gennych.

Cyfleoedd Astudio Tramor a Byd-eang

Nid yw cofrestru ar raglen sy'n cynnwys semester/blwyddyn dramor yn gwarantu lleoliad gwaith semester/blwyddyn dramor yn awtomatig. Mae nifer gyfyngedig o leoedd ar gael ac yn amodol ar broses ddethol gystadleuol. Os na fyddwch chi'n llwyddo i ennill lleoliad gwaith semester/blwyddyn dramor, cewch chi eich trosglwyddo i gwrs safonol eich cynllun gradd heb semester neu flwyddyn dramor. I ddysgu mwy am astudio dramor, ewch i'n tudalennau gwe Go Global.

Mae rhaglenni rhyngwladol yr haf ar agor i fyfyrwyr o bob coleg. Fel arfer, mae rhaglenni'n para o 2 i 6 wythnos, ar draws cyrchfannau megis Tsieina, Sambia, De Corea, Siapan, Canada a ledled Ewrop. Am ragor o wybodaeth ynghylch rhaglenni a chymhwysedd, ewch i'n tudalennau gwe Haf Dramor.

Caiff pob un o'n myfyrwyr yr opsiwn o astudio dramor. Mae ein rhaglenni pedair blynedd yn cynnig blwyddyn lawn dramor ac rydym hefyd yn cynnig tymor dramor ar gyfer cyrsiau gradd tair blynedd, yn ystod eich ail flwyddyn o fis Ionawr i fis Mai yn Hong Kong, Singapôr ac UDA. Rhaglen gyfnewid yw'r tymor dramor felly byddwch yn talu ffioedd dysgu'r DU a byddwch yn gyfrifol am gostau llety a byw yn y sefydliad partner am y tymor hwnnw.

Sut i wneud cais

Gwnewch gais nawr - myfyrwyr y DU, UE a rhyngwladol.

Cewch wybod mwy drwy ymweld â'n tudalen ar sut i wneud cais

Diweddariad Covid ar gyfer Dysgu ac Addysgu

Rydym wedi newid rhai agweddau ar y ffordd rydym yn addysgu eleni, a bydd mwy o weithgareddau nag arfer yn cael eu cynnal ar-lein.

Mae calendr y Brifysgol wedi’i rannu’n flociau. Mae Bloc Addysgu Un yn para o fis Medi tan fis Ionawr ac yn ystod y bloc hwn eleni byddwch yn cael eich addysgu mewn ffordd ‘gyfunol’. Mae hyn yn golygu y bydd rhai o’ch gweithgareddau addysgu ar-lein a rhai ar y campws. Gyda’r addysgu ar-lein, er na fyddwch yn yr un ystafell â’r darlithydd, gall y gweithgarwch fod yn ‘fyw’ a bydd gennych gyfle i ryngweithio. Bydd rhai o’ch gweithgareddau’n hunan-gyfeiriedig sy’n golygu eich bod yn gallu cyrchu’r deunyddiau dysgu ar adeg sy’n gyfleus i chi.

 

Bydd eich sesiynau wyneb yn wyneb ar y campws yn gymysgedd o:

Grwpiau astudio a gweithdai rhaglenni

Seminarau pwnc

Gweithdai sgiliau astudio

Digwyddiadau sefydlu ac ymgynefino

Cyfarfodydd unigol gyda’ch Mentor Academaidd

Ymgynghori â staff ac oriau swyddfa

Goruchwyliaeth traethawd estynedig (myfyrwyr y flwyddyn olaf ac ôl-raddedig a addysgir)

 

Gall eich dysgu ac addysgu ar-lein gynnwys:

Darlithoedd byw wedi’u ffrydio

Seminarau, gweithdai a thiwtorialau modiwl

Cyfarfodydd unigol gyda’ch Mentor Academaidd

Ymgynghori â staff ac oriau swyddfa

Digwyddiadau cymunedol i staff a myfyrwyr

Goruchwylio traethawd estynedig (myfyrwyr y flwyddyn olaf ac ôl-raddedig a addysgir)

 

Bydd dysgu hunan-gyfeiriedig yn cynnwys:

Deunyddiau astudio wedi’u trefnu

Gweithgareddau astudio hunan-gyfeiriedig

Darllen paratoadol a phellach

Darlithoedd wedi’u recordio

Profion a chwisiau ffurfiannol

Astudio annibynnol yn y llyfrgell

Astudio annibynnol yn y labordai cyfrifiaduron

Cyfarfodydd Grŵp Dylunio

Cyrsiau paratoi cyn y tymor Gallwch ddatblygu eich sgiliau academaidd, eich dealltwriaeth o derminoleg sy’n benodol i’r pwnc a Saesneg academaidd

Llenyddiaeth Saesneg ac Astudiaethau Americanaidd

Astudiaethau Americanaidd a Llenyddiaeth Saesneg gyda Blwyddyn Dramor

  • Colegau Academaidd
  • Cyrsiau Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Coleg Y Celfyddydau a'r Dyniaethau
      • Astudiaethau Americanaidd
        • BA Astudiaethau Americanaidd
        • BA Astudiaethau Americanaidd a Llenyddiaeth Saesneg
        • BA Astudiaethau Americanaidd a Hanes
        • Astudiaethau Americanaidd a Chysylltiadau Rhyngwladol
        • Astudiaethau Americanaidd a Gwleidyddiaeth
        • BA Astudiaethau Americanaidd gyda Blwyddyn Sylfaen
      • Clasuron, Hanes Hynafol ac Aifft
      • Adran y Gymraeg
      • Ysgol Addysg
      • Iaith Saesneg
      • Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol
      • Hanes
      • Astudiaethau’r Cyfryngau a Chyfathrebu
      • Astudiaethau Canoloesol
      • Ieithoedd, Cyfieithu a Chyfathrebu
      • Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol
      • TESOL
      • Rhyfel a Chymdeithas
    • Cyrsiau Israddedig Peirianneg
    • Cyrsiau Israddedig Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd
    • Cyrsiau Israddedig y Gyfraith
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Meddygaeth Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Y Coleg Gwyddoniaeth
    • Cyrsiau Is-raddedig yn dod yn fuan!
    • Gofynion mynediad
  • Cysylltu â'r tîm derbyn israddedig
  • Diwrnodau Agored Israddedig
  • Llety
  • Sut i wneud cais am gwrs israddedig
  • Chwaraeon
  • Bywyd Myfyriwr
  • Ffioedd a Chyllid
  • Gwnewch Gais am 2021
  • Mynediad ym mis Ionawr ar gyfer Israddedigion
  • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
  • Rhithdaith
  • Gwybodaeth i Rieni a Gwarcheidwaid
  • Prosbectws Israddedig
  • Pam Astudio yn Abertawe?
  • Beth yw UCAS Extra? Eich canllaw cynhwysfawr
  • Clirio
  • Newidiadau rhaglen israddedig
  • Athrawon ac Ymgynghorwyr
  • Graddau Asesiad Canol
Ymgeisio

O ble ydych chi'n gwneud cais?

Gwneud cais fel myfyriwr o'r DU neu'r UE?

Dylai pob myfyriwr y DU neu'r UE wneud cais drwy UCAS

Ewch i UCAS

Gwneud cais fel myfyriwr rhyngwladol?

Mae gennym System Gwneud Cais uniongyrchol rhwydd a chyflym i fyfyrwyr rhyngwladol.

Ewch i'r System Gwneud Cais

Gall myfyrwyr rhyngwladol hefyd wneud cais drwy UCAS

Diwrnod Agored Gofynnwch gwestiwn i ni
  • Cysylltwch â ni
  • Swyddi
  • Colegau
  • Y Wasg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Ymwadiad a Hawlfraint
  • Map o'r Safle
  • Datganiad Caethwasiaeth Fodern
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342