Trosolwg o'r Cwrs
Gallwch ymgolli yn llenyddiaeth, iaith a diwylliant Cymru a dysgu Almaeneg gan dreulio blwyddyn yn gweithio neu'n astudio yn yr Almaen ar y cwrs gradd BA cydanrhydedd hwn.
Byddwch yn meithrin rhuglder llafar ac ysgrifenedig ac yn magu hyder yn eich defnydd a'ch dealltwriaeth o'r Gymraeg.
Byddwch yn astudio amrywiaeth eang o lenyddiaeth Gymraeg gan gynnwys dramâu, straeon byrion a nofelau, yn ogystal â barddoniaeth o'r traddodiad barddol canoloesol i geneuon protest modern.
Byddwch yn meithrin dealltwriaeth gadarn o iaith a gramadeg Cymraeg, ieithyddiaeth a pholisi cynllunio iaith, ac yn dysgu sgiliau cyfieithu gwerthfawr.
Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn cael hyfforddiant dwys mewn Almaeneg ac yn astudio agweddau pwysig ar lenyddiaeth, diwylliant a chymdeithas yr Almaen.
Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn meithrin sgiliau ymchwil a dadansoddi ardderchog ac yn dysgu sut i gyflwyno eich syniadau'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig.