Croeso i Adran y Gymraeg

Mae traddodiad hir o astudio'r Gymraeg yn Abertawe, sy'n estyn yn ôl i adeg agor y Brifysgol ym 1920.

Mae gan yr holl academyddion yn Adran y Gymraeg enwau rhagorol yn eu meysydd ac maent wedi cyfrannu at fywyd diwylliannol Cymru fel beirniaid yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac fel golygyddion cylchgronau fel Barn, Taliesin, Ysgrifau Beirniadol a Dwned. Hefyd, mae tri aelod o staff yr Adran wedi ennill y Gadair a'r Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae gan Adran y Gymraeg yn Abertawe enw da am gynnal ymchwil ragorol ac mae Ystyrir bod 100% o'n hamgylchedd ymchwil yn arwain y byd neu yn rhagorol yn rhyngwladol. (REF 2021).

Mae aelodau o'r Adran yn meddu ar arbenigedd ym meysydd beirniadaeth lenyddol, llenyddiaeth Gymraeg dros y canrifoedd, golygu testunau, sosioieithyddiaeth, cyfieithu, a Chyfreithiau Hywel.

Mae myfyrwyr sydd wedi graddio o'r Adran wedi symud ymlaen i fwynhau gyrfaoedd llwyddiannus ym meysydd addysg, llywodraeth leol, cyfieithu, y cyfryngau, y diwydiant cyhoeddi, byd busnes a llawer o feysydd eraill.