Peirianneg Sifil Cyrsiau Israddedig

Ymdopi gyda dylunio, adeiladu a chynhaliaeth yr amgylchedd adeiledig

Myfyrwyr yn dal gwaith mewn labordy strwythurau

PEIRIANNEG SIFIL

Mae Peirianneg Sifil yn ymdrin â dylunio, adeiladu a chynnal a chadw'r amgylchedd adeiledig diriaethol a naturiol. Yn ogystal â bod yn gyfrifol am adeiladu'r isadeileddau rydym yn dibynnu arnynt bob dydd, mae Peirianwyr Sifil hefyd yn sicrhau eu bod yn gweithredu'n effeithiol a'u bod yn gallu addasu yn wyneb heriau megis twf poblogaeth, newid yn yr hinsawdd a thrychinebau naturiol.

Os wyt ti'n unigolyn creadigol a chwilfrydig â meddylfryd technegol, sy'n mwynhau her, ac os wyt ti'n awyddus i wella cymunedau a bywydau pobl, mae Peirianneg Sifil yn ddelfrydol i ti.

Mae gan ein graddau elfennau damcaniaethol ac elfennau ymarferol er mwyn rhoi profiad dysgu heriol ond ymarferol i ti, fel dylunio, adeiladu a phrofi strwythurau hyd fethu, gan symud ymlaen at enghreifftiau mwy ac enghreifftiau mwy cymhleth yn y pen draw, fel siediau awyrennau, pontydd a nendyrau.

Oherwydd bod Peirianneg Sifil yn rhan o gynifer o bethau, mae galw mawr am ein graddedigion mewn llawer o sectorau gwahanol oherwydd eu gwybodaeth am dechnoleg ac amgylchedd y cleientiaid y byddant yn gweithio gyda nhw, sy'n rhoi mantais iddynt ym myd gwaith.

Cer ar daith dywys o amgylch ein cyfleusterau

Mae Peirianneg Sifil wedi ei achredu gan Gyd-Fwrdd y Cymedrolwyr

Institution of Civil Engineers logo
The Institute of Structural Engineers logo
logo Institute of Highway Engineers
Permanent Way Institution logo