Cyfres Newyddion Cyfoes - Archebwch sesiynau academaidd nawr

Ansicr o ba bwnc yr hoffech chi ei astudio yn y Brifysgol? Archebwch le ar y Gyfres Gweminarau Newyddion Cyfredol isod i gael rhagflas o'n cyrsiau.

Mae pob sesiwn yn cael ei chyflwyno gan ein hacademyddion ac yn cynnig y cyfle i:

  • Gael teimlad o sut beth yw darlithoedd prifysgol
  • Archwilio sawl pwnc o ddiddordeb
  • Ddysgu am ymchwil gyfoes
  • Ofyn gwestiynau am y cwrs

 

Beth sydd ymlaen

Person sat at desk

Sut mae 'costau trafferth' yn effeithio ar eich penderfyniadau

Ymunwch â Dr Wayne Thomas i ystyried sut mae 'costau trafferth' gwahanol - yr amser, yr ymdrech, yr arian neu'r sgiliau sydd eu hangen i gwblhau prosesau, cyrchu gwasanaethau a phrynu eitemau etc - yn dylanwadu ac yn effeithio ar ein penderfyniadau economaidd. Sut rydym ni'n penderfynu beth sy'n drafferthus a'r hyn sy'n werth ein hymdrechion.

Cofrestrwch yma

Economeg

25/09/2023

18:00 - 19:00 BST

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
people in lab wearing goggles

Cymhwyso ymyrraeth RNA: targedu plâu canser a phryfed

Ymunwch â'r Athro Paul Dyson i ymchwilio i sut y gellir defnyddio bacteria i reoli fectorau clefyd pryfed. Mae'r genetegwr yr Athro Paul Dyson yn esbonio sut mae ei ymchwil i ddefnyddio bacteria i gyflawni ymyrraeth RNA yn gallu cael ei defnyddio i dargedu plâu pryfed a sut gallai ei arian gan Cancer Research UK ein helpu i guro canser.

Cofrestrwch yma

Biocemig & Geneteg

26/09/2023

18:00 - 19:00 BST

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
Two nursing students standing by a hospital bed

Cipolwg ar Nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe

 

Ymunwch ag Adam Miguel a Virginia Beckerman, dau o'r darlithwyr nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe, wrth i ni archwilio beth gall Nyrsio ei gynnig i chi. Bydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar gynnwys y cwricwlwm a sut mae efelychu'n cael ei ddefnyddio i gyfoethogi profiad dysgu ac addysgu Nyrsio. 

 

Cofrestrwch yma

Nyrsio

27/09/2023

18:00 - 19:00 BST

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
Student holding a rocket

Aerodynameg: Sut gall rhywbeth llawn mathemateg fod mor ddifyr?

Gall gyrfa mewn Peirianneg Awyrofod dy helpu i gyfrannu at lawer o waith cyffrous. Yn y sgwrs hon, byddwn ni'n canolbwyntio ar y man cyffrous lle mae mecaneg hylifol arbrofol yn cysylltu ag aerodynameg.

Cofrestrwch yma

Peirianneg Awyrofod

27/09/2023

18:00 - 19:00 BST

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
cars in traffic jam

Traffig, Cludiant a’n Hymddygiad

Ymunwch â'r Athro Ian Walker i archwilio'r ffenomenon "Motornomativity" a thrafod yr ymddygiadau sy'n cael eu sbarduno'n awtomatig ac yn ddiarwybod gan yr amgylchedd y mae unigolyn yn canfod ei hun ynddo, yn benodol yng nghyd-destun arferion gyrru.

Cofrestrwch yma

Seicoleg

28/09/2023

18:00 - 19:00 BST

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
student wearing blue helmet

Ail-lunio'r Dyfodol: Rôl Hollbwysig Peirianneg Gemegol

Mae peirianwyr cemegol yn creu atebion arloesol er mwyn gwella ansawdd bywyd, meithrin cynaliadwyedd a mynd i'r afael â heriau byd-eang o bwys. Ymuna â'r weminar hon er mwyn dysgu sut rydym yn hyrwyddo ym Mhrifysgol Abertawe newid cadarnhaol mewn diogelu'r amgylchedd, ynni cynaliadwy a mynediad at ddŵr glân.

Cofrestrwch yma

Peirianneg Gemegol

02/10/2023

18:00 - 19:00 BST

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
image of salt marsh

Sut i adeiladu morfa heli

Ymunwch â Dr Cai Ladd i ddarganfod y stori ryfeddol am sut mae morfeydd heli – cynefin arfordirol pwysig – yn cael eu hadeiladu gan ryngweithiadau rhwng planhigion, dŵr, a gwaddod, a beth mae hyn yn ddweud wrthym am wytnwch y byd naturiol.

Cofrestrwch yma

Daearyddiaeth

02/10/2023

18:00 - 19:00 BST

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
image of saltmarsh

Sut i adeiladu morfa heli - Cymraeg

Ymunwch â Dr Cai Ladd i ddarganfod y stori ryfeddol am sut mae morfeydd heli – cynefin arfordirol pwysig – yn cael eu hadeiladu gan ryngweithiadau rhwng planhigion, dŵr, a gwaddod, a beth mae hyn yn ddweud wrthym am wytnwch y byd naturiol.

*Ymunwch â'r sesiwn hon am y Daearyddiaeth, a gyflwynir yn Gymraeg.

Cofrestrwch yma

Daearyddiaeth (Cymraeg)

03/10/2023

18:00 - 19:00 BST

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
Person counting money

Cyllid - Awn ati i wneud arian!

Cyllid yw'r ddisgyblaeth o uchafu arian neu gyfalaf er mwyn creu gwerth yn y dyfodol. Ond yn aml gall yr amgylchedd gynnig rhwystrau neu gyfleoedd yn y broses hon. Os gallwn ni ganolbwyntio ar greu gwerth ond, ar yr un pryd, gadw llygad ar ragweld y newidiadau sydd ar y gorwel yn yr amgylchedd economaidd, bydd modd cynhyrchu enillion annormal.

Cofrestrwch yma

Cyllid

03/10/2023

18:00 - 19:00 BST

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
engineering student sitting at a desk

Gweithgynhyrchu Haen Ychwanegyn

Ymunwch â’r sesiwn ar Beirianneg Fecanyddol

Cofrestrwch yma

Peirianneg Fecanyddol

04/10/2023

18:00 - 19:00 BST

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
student wearing headphones

Cynhwysedd Rhyw a'r Potensial ar gyfer Newid Ieithyddol

Gallwch ddarganfod y tueddiadau diweddaraf mewn addysgu ac ymchwil ym maes Ieithoedd Modern gyda'n gweminar gyffrous! O'r ffiniau sy'n ein rhannu i'r ieithoedd sy'n ein huno, byddwn yn archwilio ein cymdeithas amlweddog a'i natur agored o ran cynhwysiant rhyweddol a newid ieithyddol 

 

 

 

Cofrestrwch yma

Ieithoedd Modern

04/10/2023

18:00 - 19:00 BST

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
Doctor and pregnant patient having a conversation

Cyfraith Feddygol

Ymunwch â Dr Emyr Wile am sesiwn afaelgar ar ei ymchwil i sgrinio cynenedigol a chydsyniad. Byddwn yn ystyried y cwestiwn canlynol: ydy buddion cleifion a darparwyr gofal iechyd yn cael eu bodloni i'r un graddau wrth sgrinio a sicrhau cydsyniad ar ei gyfer?

Cofrestrwch yma

Y Gyfraith

05/10/2023

18:00 - 19:00 BST

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
student wearing a white lab coat looking through a microscope

Deunyddiau newydd ar gyfer celloedd solar at ddiben cymwysiadau awyrofod?

Mae celloedd solar wedi bod yn cael eu defnyddio ar gyfer cymwysiadau awyrofod, er enghraifft i bweru lloerennau.  Yn y ddarlith hon, bydd dau ddeunydd lled-ddargludol cymharol newydd yn cael eu cyflwyno, gan gynnwys eu priodweddau arbennig a allai arwain at  genhedlaeth nesaf o gelloedd solar ar gyfer cymwysiadau awyrofod.

Cofrestrwch yma

Gwyddor Deunyddiau

05/10/2023

18:00 - 19:00 BST

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen

Drwy anfon eich ymholiad rydych yn caniatáu i'ch data gael ei gadw gan Brifysgol Abertawe. Defnyddir eich data er dibenion delio â'ch ymholiad ac anfon y wybodaeth berthnasol atoch am Brifysgol Abertawe. Ni fydd Prifysgol Abertawe'n trosglwyddo'ch manylion i unrhyw drydydd parti. Os dymunwch dynnu'ch enw oddi ar gronfa ddata Prifysgol Abertawe, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Myfyrwyr, Prifysgol Abertawe, SA2 8PP neu e-bostiwch astudio@abertawe.ac.uk