Mae Ffrangeg wedi cael ei addysgu yn Abertawe ers sefydlu’r Brifysgol ym 1920. Yr Athro Mary Williams, y fenyw gyntaf â chadair mewn unrhyw bwnc academaidd yn y DU, oedd pennaeth cyntaf yr adran. Erbyn hyn, mae Ffrangeg ar gael ar ddwy raglen BA anrhydedd sengl (BA Ieithoedd Modern a BA Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd) ac ar amrywiaeth o gyfuniadau cyd-anrhydedd naill ai ar lefel Safon Uwch neu lefel Dechreuwyr. Caiff Ffrangeg ei addysgu gan saith aelod parhaol o staff, y mae tri ohonynt yn siaradwyr brodorol. Y rhain yw: Dr Greg Herman; Dr Kathryn Jones; Dr Jo Langley; Dr Catherine Rodgers; Yr Athro Andy Rothwell; Dr Sophie Rouys; a Dr Alison Williams.

 

map illustrating French speakers around the world

Mae ein BA Ieithoedd Modern yn eich galluogi i astudio Ffrangeg fel pwnc unigol (yr hyn a arferai gael ei alw’n Ffrangeg anrhydedd sengl) neu ar y cyd ag Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg, Arabeg neu Mandarin. Mae modiwlau dewisol yn cynnwys Paris, Ffrainc a’r Ail Ryfel Byd, Sinema Gyfoes Ffrainc a Hanes yr Iaith Ffrangeg, yn ogystal â Chyfieithu ar y Pryd, y Gweithdy Cyfieithu ac, yn eich blwyddyn olaf, y traethawd hir. Mae gennym bartneriaethau â’r prifysgolion canlynol yn Ffrainc lle gallwch dreulio eich blwyddyn dramor: Angers, Besançon, Brest, Chambéry, Lyon III, Pau a Toulouse. Gallwch hefyd weithio fel Cynorthwy-ydd Iaith gyda’r British Council neu ymgymryd â lleoliad gwaith. Mae BA Ieithoedd Modern yn cynnig cwricwlwm eang drwy dri llwybr, sef Diwylliant, Addysg a Chyfieithu.

Ar gynllun BA Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd, rydych chi’n astudio Ffrangeg ochr yn ochr ag iaith arall a modiwlau arbenigol megis Cyfieithu â Chymorth Cyfrifiadur a Chysyniadau Cyfieithu. Bydd yn rhaid i chi rannu eich blwyddyn dramor, gan ymarfer Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd mewn dwy iaith mewn dau sefydliad o’n rhestr o bartneriaid nodedig. Yn achos Ffrangeg, mae’r rhain ym Mrwsel, Geneva a Pharis.

Gall pob myfyriwr Ffrangeg ymuno â Café Causette, a gynhelir bob wythnos, ac ymuno â Chymdeithas Ffrangeg y Brifysgol.

Ar ôl eich BA, gallwch arbenigo mewn Ffrangeg ar un o’r graddau Meistr mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd a Chyfieithu Proffesiynol, sydd hefyd yn cynnig opsiynau interniaeth ac astudio dramor, neu astudio MA drwy Ymchwil mewn Ffrangeg, sy’n arwain at MPhil neu PhD.