Ymchwilydd PhD

Fy nheitl PhD yw Datblygu Teclyn Asesu Amgylcheddol Dan Do i Bobl â Dementia Ysgafn i Gymedrol Fyw Mewn Cartrefi Nyrsio, Cartrefi Preswyl, Tai Cysgodol a Thai Gofal Ychwanegol.

Fy Nghefndir

Yn dilyn cwblhau BSc mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe a chael gwobr Cymdeithas Seicolegol Prydain, newidiais gyfeiriad a dechrau ar MSc mewn Astudiaethau Heneiddio, y dyfarnwyd ysgoloriaeth imi. Arweiniodd hyn at ddiddordeb yn enwedig mewn dementia ac fe wnaeth fy annog i ddechrau PhD mewn amgylcheddau gofal dementia, yn enwedig amgylcheddau corfforol.

Yn ystod fy MSc, bûm yn gweithio fel gwirfoddolwr i Age Cymru Bae Abertawe ar y llinellau ffôn brysbennu. Yma cefais brofiad uniongyrchol o'r materion sy'n ymwneud â dementia ynghyd â llawer o ymholiadau eraill. Bwriadaf barhau â gwaith gwirfoddol yn y sector hwn yn ystod fy astudiaethau PhD.

Fy Ymchwil

Wedi astudio’r llenyddiaeth am opsiynau tai i bobl hŷn â dementia, mae bwriadau gwahanol opsiynau tai yn amrywio’n sylweddol. Yr awydd yw cynnal lefel o annibyniaeth, yn enwedig gweithgareddau bywyd beunyddiol, mae hyn yn dod yn anoddach wrth i'r dementia fynd yn ei flaen, gan arwain at faterion diogelwch posibl. Mae tai cysgodol ac ychwanegol wedi'u cynllunio i hyrwyddo gallu lle mae cartrefi gofal yn canolbwyntio llawer mwy ar amgylchedd diogel. Mae angen tir canol.

Bwriad allweddol yr astudiaeth hon yw datblygu a phrofi teclyn a allai o bosibl wella amgylcheddau byw dan do ar gyfer y rhai sydd mewn cyfnodau ysgafn i gymedrol o ddementia ar draws ystod o leoliadau preswyl (tai cysgodol, tai gofal ychwanegol, cartrefi preswyl a chartrefi nyrsio). Bydd yn galluogi defnyddwyr i asesu addasrwydd yr amgylchedd byw i'r rheini â dementia ond mae hefyd modd ei ddefnyddio wrth ddatblygu cyfleusterau newydd ar gyfer y rhai â dementia.

Dengys yr adolygiad llenyddol y cysylltiad rhwng amgylchedd byw dan do a chynnal ymreolaeth ac annibyniaeth mewn lleoliad diogel.

Mae pedwar cam i'r ymchwil-

  1.  Adolygiad llenyddol.
  2.  Y defnydd o adolygiad llenyddol i lywio'r gwaith o ddatblygu offeryn casglu data ar gyfer y grŵp ffocws.
  3.  Datblygiad ansoddol y raddfa trwy grwpiau ffocws a chyfweliadau.
  4.  Profi'r raddfa sy'n cynnwys cyfweliadau gwybyddol gyda deiliaid diddordeb.

 Bydd grŵp ffocws a chyfweliad gwybyddol ym mhob un o'r pedwar lleoliad.

  1.  Cartrefi gwarchodol.
  2.  Tai gofal ychwanegol.
  3.  Cartrefi preswyl.
  4.  Cartrefi nyrsio.

Hefyd, cynhelir cyfweliadau un i un gyda gweithwyr proffesiynol fel rheolwyr cartrefi gofal a rheolwyr cymdeithasau tai. Y bwriad yw recriwtio 36 o gyfranogwyr yn gyfan gwbl, 8 o bob lleoliad. Bydd y rhain yn cynnwys cymysgedd o 7 cyfranogwr â dementia a'u gofalwyr ac 1 gweithiwr proffesiynol ym mhob lleoliad.

Goruchwylwyr

Dr Martin Hyde, Dr Deborah Morgan

Cyswllt

448072@swansea.ac.uk 

Llun o Verity Walters