Ymchwilydd PhD

Fy nheitl PhD yw Asesu’r Berthynas o Ddefnydd Bws Mantais ac Iechyd ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru

Fy nghefndir

Canolbwyntia fy maes diddordeb proffesiynol a chymhwyster ar bolisi cyhoeddus ac amddiffyn. Fe wnes i gwblhau BSc mewn Troseddeg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe yn 2012 ac MSc mewn Ymchwil Gymdeithasol yn 2015. Rwyf hefyd wedi bod yn ddarlithydd Polisi Cymdeithasol israddedig rhan-amser ers 2012 ac ar hyn o bryd rwy'n Gynghorydd Sir ar gyfer Dinas a Sir Abertawe.

Fy ymchwil

Ym mis Hydref 2016, dechreuais PhD llawn amser sy'n asesu Perthynas Defnydd Tocyn Bws Gonsesiwn ac Iechyd i Bobl Hŷn yng Nghymru. Canolbwyntia’ PhD yma ar ddwy brif linyn; (1) Nodi polisïau cyfredol a setiau data cysylltiedig yng Nghymru; (2) Nodi deiliaid diddordeb, cydweithredwyr a chyfranogwyr ymchwil posibl. Hyd yn hyn mae fy ymchwil wedi nodi nad yw data yng Nghymru yn cael ei gadw ar yr un lefel o fanylion â data yn Lloegr, sy'n ei gwneud hi'n anodd asesu a yw'r polisi wedi bod yn llwyddiannus. Ar hyn o bryd gweithiaf gyda Llywodraeth Cymru a chynghorau Lleol i asesu pa ddata sydd ar gael, pwy sy'n berchen arno ac a ellir gwneud cysylltiadau â SAIL / ADRC.

Fy amcan cyffredinol yw archwilio'r potensial i fapio data teithio rhatach i setiau data iechyd a chymdeithasol a nodi glanhau data, bylchau a rheolaeth ansawdd sydd eu hangen i wneud y mwyaf o'i botensial. Ynghyd â chasglu data sylfaenol a dadansoddi data ansoddol, bydd yr ymchwil hon yn caniatáu imi ddefnyddio is-set o'r setiau data hyn i gymharu iechyd gwahanol fathau o ddefnyddwyr a phobl nad ydynt yn ddefnyddwyr yn uniongyrchol ac ymchwilio i ba raddau y mae'r cynllun prisiau rhatach yn caniatáu i bobl hŷn gyfrannu i'r economi ehangach.

Goruchwylwyr

Dr Charles Musselwhite, Dr Martin Hyde

Cyswllt

555247@swansea.ac.uk 

Llun o Kelly Roberts