Ymchwilydd PhD

Fy nheitl PhD yw Rhith Realiti fel Offeryn ar gyfer Addysg Cleifion, i Wella Mynediad at Radiotherapi Amserol, ar gyfer Cleifion sy'n derbyn Triniaeth Canser y Fron gan ddefnyddio Radiotherapi dan Dywysiad Arwyneb 

Fy nghefndir 

Rwyf wedi bod yn y Brifysgol ers pedair blynedd, yn gweithio fel uwch ddarlithydd a thiwtor derbyn ar gyfer rhaglenni israddedig Meddygaeth Niwclear a Ffiseg Radiotherapi, sy'n dod o dan ymbarél Gwyddorau Gofal Iechyd. Rwyf hefyd yn gweithredu fel hwylusydd ar gyfer myfyrwyr sydd â lleoliadau clinigol yn Ymddiriedolaethau / adrannau GIG Lloegr. Cyn gweithio yn y Brifysgol, fe wnes i gwblhau MSc mewn Bioleg Ymbelydredd yn Rhydychen, a ddaeth i ffrwyth gyda phrosiect yn gweithio gyda'r Royal Marsden (Sutton) i ddatblygu model adrannol ar gyfer cineteg I131 yn ystod radiotherapi moleciwlaidd. 

Fy ymchwil 

Mae fy PhD wedi ei seilio ar ddefnyddio rhith-realiti / efelychiad fel cyfrwng ar gyfer addysg cleifion, ar gyfer cleifion sy'n derbyn radiotherapi i drin canser y fron. Mae'n PhD rhan-amser, 6 blynedd, sy'n cael ei ariannu gan fwrsariaeth staff. 

Goruchwylwyr 

Yr Athro Andrea Tales, Dr Richard Hugtenburg

Cyswllt

J.M.C.Purden@swansea.ac.uk

Llun o Joe Purden