Ymchwilydd PhD

Fy nheitl PhD yw Ailddiffinio terfynau proffesiynol – ymarfer sy'n canolbwyntio ar berthnasoedd wrth ofalu am bobl hŷn â dementia

Fy nghefndir

Bûm yn gweithio o fewn y gwasanaethau cymdeithasol am gyfanswm o chwe blynedd, fel cynorthwyydd llesiant, gweithiwr cymdeithasol myfyrwyr ac yn olaf fel gweithiwr cymdeithasol cymwys wedi i mi gwblhau BSc mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe yn 2012. Yna es ymlaen i ymarfer am ddwy flynedd fel gweithiwr cymdeithasol yn nhîm amddiffyn plant cyn newid cyfeiriad gyrfa a symud i'r Gymdeithas Alzheimer lle cefais fy nghyflogi fel Swyddog Ymgysylltu a Chyfranogi. Gweithiais ar draws y sefydliad yng Nghymru i hyrwyddo ac ymgorffori cyfranogiad defnyddwyr mewn ymarfer ac i annog a chefnogi cyfranogiad a chyd-gynhyrchu gyda phobl sy'n byw â dementia mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Wrth weithio yn y Gymdeithas Alzheimer, fe wnes i gwblhau fy MSc mewn Dulliau Ymchwil Gymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe yn 2014.

Fy ymchwil

Ym mis Hydref 2015 y dechreuais fy PhD. Bwriad y PhD yw adnabod nodweddion allweddol ymarfer sy'n seiliedig ar berthynas i bobl hŷn â dementia, i archwilio dulliau arloesol mewn gofal cymdeithasol ac i ddatblygu polisi ac ymarfer tystiolaeth berthnasol sy'n cefnogi ymroddiad dyblyg o ymarfer sy’n canolbwyntio ar berthynas. Hefyd, bwriada’r prosiect archwilio sut mae ymarferwyr yn cydbwyso hawliau, risgiau a chyfrifoldebau wrth ofalu am berson hŷn â dementia, yng nghyd-destun cynyddu gweithdrefnau a phrosesau biwrocrataidd o fewn gofal cymdeithasol.

Goruchwylwyr

Yr Athro Fiona Verity, Dr Michele Raithby

Cyswllt

436770@swansea.ac.uk

Llun o Faye Grinter