*Sylwch, nid yw'r clinig awdioleg ar gael ar hyn o bryd*

Mae ein clinig clyw unigryw ym Mhrifysgol Abertawe yn darparu amrywiaeth o wasanaethau o’r radd flaenaf, gan gynnwys profion clyw diagnostig sy’n cael eu cynnal mewn cabannau atal-sŵn gyda waliau dwbl, cyngor annibynnol, tynnu cwyr o’r glust gan ddefnyddio techneg micro-sugno, yn ogystal â dewis eang o declynnau clyw o safon uchel ac adnoddau eraill sy’n addas ar gyfer gwahanol anghenion, ffordd o fyw a chyllideb pob unigolyn. Cefnogir hyn hefyd gan wasanaeth ôl-ofal i’n holl gwsmeriaid, gan gynnwys tiwnio cywrain, addasiadau ac unrhyw gyngor arall sydd ei angen.

Mae ein tîm ymroddedig yn cynnwys tri Awdiolegydd clinigol, sydd â thros 30 mlynedd o brofiad yn cynnal asesiadau clyw, yn gosod teclynnau clyw ac adfer clyw. Rydym wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithwyr Iechyd a Gofal Proffesiynol a Chyngor Cofrestru’r Ffisiolegwyr Clinigol er mwyn sicrhau bod ein hymarferion yn cydymffurfio gyda’r safonau uchaf o ran diogelwch, moeseg a pherfformiad.

Mae unrhyw incwm syn cael ei gynhyrchu on clinig yn cael ei ail-fuddsoddi yn y brifysgol er mwyn hyfforddi ein myfyrwyr awdioleg.

GWAREDU CWYR GAN DDEFNYDDIO MICROSUGNO

CWRDD Â’R TÎM