Prosiect Cydweithredol Arloesol

Mae'r Academi Iechyd a Lles yn brosiect cydweithredol rhwng yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe ac ARCH, (Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd). Prif nod yr Academi yw gwella iechyd a lles pobl yn ne-orllewin Cymru drwy ddod ag arloesi, addysg, menter ac ymchwil o'r radd flaenaf ynghyd.

Gwyliwch y fideo byr isod i ddarganfod mwy am y cydweithrediad arloesol hwn...

 

Gweledigaeth

Gwella iechyd a lles pobl yn ne-orllewin Cymru.

 

Cenhadaeth

Bydd yr Academi Iechyd a Lles yn:

  • Darparu amrywiaeth o wasanaethau iechyd a lles o safon uchel yn agosach at gartrefi pobl

  • Ymwneud ag ymchwil arloesol a fydd yn ysgogi arloesi a rhagoriaeth ym mhob peth a wnawn

  • Gwella profiad dysgu ac addysgu staff a myfyrwyr i uchafu eu cyflogadwyedd yn y dyfodol

 

Gwerthoedd

Mae'r Academi Iechyd a Lles yn cefnogi'r gwerthoedd craidd canlynol:

  • Darparu gwasanaeth ardderchog

  • Canolbwyntio ar anghenion y boblogaeth

  • Cydweithio i gyfoethogi bywydau

 

Nodau 

Nodau'r Academi Iechyd a Lles yw:

  • Darparu gofal cyfannol, sy'n canolbwyntio ar y person, i bobl o bob oedran

  • Cynnig cymorth, cyngor a gwybodaeth sy'n helpu pobl i wella eu hiechyd a'u lles eu hunain

  • Cynnig gwasanaethau sy'n cefnogi adnabod a darparu diagnosis a thriniaeth ar gyfer cyflyrau iechyd a gofal cymdeithasol yn gynnar

  • Canlyniadau gofal gwell i gleifion

  • Ymgymryd ag ymchwil rhagorol a'i ddefnyddio i gyfeirio ein ffordd o weithio a'r gwasanaethau rydym yn eu darparu

  • Cyfrannu at ddatblygu gweithlu medrus a chynaliadwy sy'n addas i'r dyfodol

  • Cefnogi adfywio economaidd drwy gyfrannu at ail-gynllunio'r gweithlu