Yn y 30 gorau yn y Deyrnas Gyfunol

Mae’r Adran Hanes ym Mhrifysgol Abertawe bellach ymhlith y 30 o adrannau Hanes gorau yn y Deyrnas Gyfunol am ansawdd ei chyhoeddiadau, yr amgylchedd ymchwil ac effaith ymchwil ein staff.

Yn debyg i’n dysgu, mae ein hymchwil yn ymestyn o’r Oesoedd Canol cynnar hyd at y cyfnod diweddar. Rydym yn gweithio ar hanes America, Asia, Ewrop, y DG a Chymru. Rydym yn ymhél â themâu mawr fel ymfudo, rhywedd, rhyfel a chenedlaetholdeb ond hefyd yn edrych ar fywydau unigolion a chymunedau. Rydym yn astudio’r gorffennol ar ei delerau ei hunan ond hefyd sut mae wedi cynorthwyo i ffurfio’r byd modern.

Mae ein hymchwil yn bwydo i mewn i’n haddysgu, gan sicrhau bod myfyrwyr yn elwa o’r ysgolheictod diweddaraf, ac o gael eu dysgu gan arbenigwyr blaengar. Rydym yn gartref i gymuned fywiog o fyfyrwyr ôl-raddedig, sydd yn rhan annatod o’n gweithgareddau ymchwil. Hefyd mae ein myfyrwyr is-raddedig yn ymchwilwyr, gan gynhyrchu traethodau hir yn eu blwyddyn olaf sydd yn aml yn ddarnau gwreiddiol, disglair, ac mae’r goreuon wedi eu cyhoeddi mewn amryw fformat.

Mae gennym ymroddiad i sicrhau bod ein hymchwil yn cael effaith oddi fewn i ac y tu hwnt i academia. Bob blwyddyn mae haneswyr Abertawe yn cyhoeddi llyfrau ac erthyglau, ymddangos ar raglenni teledu a radio, ac yn siarad mewn cynadleddau, gwyliau a digwyddiadau ymchwil rhyngwladol. Rydym yn cyd-weithio â grwpiau cymunedol, gan eu cynorthwyo i ddeall eu hanesion eu hunain. Rydym yn gweithio â chynllunwyr polisïau addysg a threftadaeth, gan gyfrannu at benderfyniadau sydd ag effeithiau pellgyrhaeddol. Mae ein hymchwil wedi ffurfio sylfaen arddangosfeydd mewn amgueddfeydd, a rhaglenni radio a theledu sydd wedi cyrraedd gynulleidfa o filiynau.

Gallwch ddysgu mwy am ein gweithgareddau ymchwil yn ein blog. Yno fe welwch newyddion am ein cyhoeddiadau a'n digwyddiadau diweddaraf a'n myfyrdodau ar bynciau hanesyddol ac astudio ar y gorffennol gan staff a myfyrwyr.

Hanesydd yn trafod gweithio yn archifau'r campws

Prosiectau Ymchwil


  • Datgelu'r Gorffennol
  • Rhyfela, Mapio Ewrop
  • Offeiriaid Dall a Rheithorion Gwallgof
  • Gwahanu Lloegr a Ffrainc, 1204-1259
  • Plant a Oroesodd a Chofio'r Holocost