Croeso i Hanes

Astudiwch Hanes gyda ni ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ein staff yn ysgolheigion blaenllaw yn eu meysydd ac yn ymrwymedig i addysgu ac ennyn diddordeb y cyhoedd. Rydym yn gweithio gydag amgueddfeydd, cyrff treftadaeth a'r cyfryngau, ac mae ein myfyrwyr yn elwa mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol drwy gyfleoedd i fanteisio ar leoliadau gwaith a chyfleoedd ymchwil.

O'r Oesoedd Canol hyd yr oes fodern, mae ein harbenigedd yn cwmpasu amrywiaeth eang o feysydd, ymagweddau a themâu. Rydym yn ymfalchïo yn ein haddysgu o ansawdd uchel ac yn defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau sy'n ymestyn ymhell y tu hwnt i ddarlithoedd a seminarau confensiynol. Mae ein myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gwaith grŵp, cyflwyniadau, lleoliadau gwaith, prosiectau a theithiau maes. Ein nod yw sicrhau bod yr astudio mor symbylol â phosib, wrth hefyd ddatblygu sgiliau myfyrwyr i'w paratoi ar gyfer y gweithle.

Mae ein hymchwil yn llywio ein gweithgarwch addysgu ac rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod ein hymchwil yn cael effaith yn y byd academaidd a'r tu allan iddo. Bob blwyddyn, mae haneswyr Abertawe'n cyhoeddi llyfrau ac erthyglau, yn ymddangos ar y teledu a'r radio, ac yn annerch cynadleddau, gwyliau, a digwyddiadau ymchwil rhyngwladol.