Beth yw Fferylliaeth?
Mae ein gradd Meistr integredig pedair blynedd mewn Fferylliaeth yn adeiladu ar gryfderau'r Ysgol Feddygol, gan integreiddio gwyddoniaeth ac ymarfer i'ch paratoi i gwrdd â heriau wyneb newidiol Fferylliaeth.
Mae ein gradd Meistr integredig pedair blynedd mewn Fferylliaeth yn adeiladu ar gryfderau'r Ysgol Feddygol, gan integreiddio gwyddoniaeth ac ymarfer i'ch paratoi i gwrdd â heriau wyneb newidiol Fferylliaeth.
Heddiw mae fferyllwyr yn gweithio gyda meddygon a nyrsys mewn lleoliad clinigol felly bydd hyfforddiant yn Abertawe yn adlewyrchu hyn. Byddwch yn elwa o'n profiad a'n harbenigedd mewn gwyddor glinigol a bywyd, ymchwil, hyfforddiant ac ymarfer, gan eich helpu i ddatblygu eich ymarfer fferyllol, gwyddoniaeth a gwybodaeth. Trwy gydol y cwrs, bydd eich astudiaethau yn adlewyrchu'r ffordd y mae Fferyllwyr yn mynd at gleifion a sut mae cleifion yn cyflwyno i Fferyllwyr, gan gyfuno dealltwriaeth wyddonol â sut mae'n cael ei gymhwyso; ‘Arfer Fferylliaeth’.
Cyfuna fferylliaeth dealltwriaeth wyddonol â’i gymhwysiad clinigol ‘arfer Fferylliaeth’. Cewch eich dysgu gan arbenigwyr yn eu maes ar draws ystod o ymarfer gwyddonol gan gynnwys Fferylliaeth, Cemeg Fferyllol, Ffarmacoleg, Bioleg a Biocemeg, Anatomeg a Ffisioleg, Fferylliaeth Glinigol ac Ymarfer Fferylliaeth. Ynghyd â ffocws cryf ar sgiliau clinigol a chyfathrebu a thechnoleg ddigidol, byddwch yn datblygu'r rhinweddau academaidd, ymarferol a phersonol i ymarfer fferylliaeth yn gymwys a gyda hyder.
Gweithia fferyllwyr mewn nifer o wahanol leoliadau gofal iechyd, gan gynnwys fferyllfeydd cymunedol, meddygfeydd teuluol ac ysbytai. Ar ôl graddio mae 98% o raddedigion fferylliaeth yn gweithio neu mewn astudiaeth bellach 6 mis ar ôl graddio
Mae gennym gymaint mwy yr ydym am eu rhannu gyda chi, beth am ymuno â sgwrs pwnc Fferylliaeth gyda'n tîm addysgu academaidd a myfyrwyr presennol yr Ysgol Feddygol i ddarganfod mwy am astudio gyda ni.