Ydych chi'n Frwdfrydig am Wyddoniaeth a Thechnoleg?
Os ydych chi'n frwdfrydig am Wyddoniaeth a Thechnoleg ac yn ffynnu ar helpu eraill a gwneud gwahaniaeth, mae Gwyddor Gofal Iechyd yn ddelfrydol i chi. Bellach, dyma un o’r gyrfaoedd mwyaf cyffrous, heriol a gwobrwyol a geir ym maes gofal iechyd. Mae Ymarferwyr Gwyddor Gofal Iechyd yn cyflawni rôl hanfodol wrth atal, diagnosio a thrin nifer enfawr o gyflyrau meddygol, gan gydweithio â meddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill. Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn hyfforddi Ymarferwyr Gwyddor Gofal Iechyd y dyfodol drwy ein hystod eang o gyrsiau.