Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe i oedrannau 16+

Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe i oedrannau 16+

Tachwedd 7 a 8 yn LC Abertawe, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, a Phrifysgol Abertawe.

Mae ein gŵyl yn parhau i’r rheiny sydd dros 16 ar 7 a 8 o Dachwedd gyda sawl sgwrs, sioe, perfformiad a gweithdy mewn lleoliadau amrywiol. Ymunwch â’n hymchwilwyr a’n siaradwyr i archwilio archaeoleg, geneteg, a Star Wars yn ein digwyddiadau sy’n herio’r meddwl. Mae llefydd yn brin felly sicrhewch eich bod yn archebu lle ar gyfer bob digwyddiad yr hoffech ei fynychu.

Dummy image

Dydd Mercher 7 Tachwedd

Edrych ar ymarfer corff a beichiogrwydd a genedigaeth iach, ac archwilio Star Wars a’r byd cyfoes. Peidiwch â methu allan ar y digwyddiadau hyn!

dummy image

Dydd Iau 8 Tachwedd

Gyda sgyrsiau gan Alice Roberts, a themâu yn cynnwys archaeoleg, troseddau rhywiol, a data geneteg, mae’r digwyddiad hwn yn llawn o bynciau sy’n herio’r meddwl.