Trosolwg

Astudiaeth o'r perthnasoedd hynod ddiddorol a all ddigwydd rhwng bodau dynol ac anifeiliaid eraill yw anthrosŵoleg. Mae'r ddisgyblaeth yn ymchwilio i'r cymhellion, disgwyliadau, manteision a heriau sy'n ysgogi perthynas bodau dynol ag anifeiliaid nad ydynt yn ddynol. Dros y degawdau diwethaf, mae ymyriadau â chymorth anifeiliaid (AAI) mewn lleoliadau addysgol wedi denu diddordeb rhyngwladol cynyddol ymhlith addysgwyr yn ogystal â’r gymuned ymchwil. Mae hyn oherwydd bod rhyngweithio ag anifeiliaid yn gallu bod o fudd cadarnhaol i ddatblygiad cymdeithasol, emosiynol, corfforol, ymddygiadol a gwybyddol plant. 

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn cynnal gwaith ymchwil sy'n archwilio beth sy'n digwydd pan fydd ysgolion yn cynnwys anifeiliaid, yn enwedig cŵn, yn eu harferion. Mae'r gwaith ymchwil hwn yn cynnwys gweithio gyda chydweithwyr yng Nghymru a ledled y byd i ganfod manteision a heriau'r math hwn o waith, a natur y rhyngweithio sy'n digwydd. Er bod ffocws allweddol yn cael ei roi ar y manteision o ran lles disgyblion, mae ein hymchwil ni hefyd yn ystyried sut i sicrhau bod lles yr anifail hefyd yn flaenllaw yn y rhyngweithiadau hyn, yn bennaf trwy berthnasoedd chwareus a pharchus. 

Mae'r adran yn cynnig modiwl israddedig, ‘An Introduction to Educational Anthrozoology: Animals in Schools’, ac ar hyn o bryd mae nifer o fyfyrwyr yn yr adran yn archwilio ymyriadau â chymorth anifeiliaid fel ffocws eu traethodau hir israddedig a Meistr. 

Mae poblogrwydd cŵn ysgol wedi cynyddu’n gyflym dros y blynyddoedd diwethaf. Ceir nifer o resymau pam y gallai ysgol ystyried cael ci, ac mae llawer o enghreifftiau arferion a dulliau o weithredu'r math hwn o fenter. Fodd bynnag, does dim arweiniad ar arfer gorau ar gael i athrawon. 

Mae Prifysgol Abertawe'n gweithio mewn partneriaeth â'r Gynghrair Genedlaethol Cŵn Ysgol (NSDA) sy'n ceisio mynd i'r afael â'r bwlch hwn, ac i gefnogi athrawon i ddarparu rhyngweithio hapus, iach a charedig rhwng plant, cŵn a chydweithwyr mewn cyd-destunau ysgol.  

Mae’r NSDA yn dod ag addysgwyr, ymchwilwyr ac arbenigwyr mewn ymddygiad a hyfforddiant cŵn ynghyd, gyda’r nod o ddarparu arweiniad o ansawdd uchel i’r rhai sydd â diddordeb mewn cael ci ysgol.

Cŵn mewn Ysgolion