Students on placement with USA Falcons

Yn ddiweddar, penderfynodd USA Falcons – y tîm datblygiadol i fenywod sy'n cystadlu mewn twrnameintiau domestig a rhyngwladol y tu allan i brif Gyfres Rygbi Saith-bob-ochr y Byd HSBC – hyfforddi yng nghyfleusterau chwaraeon Prifysgol Abertawe yn ystod eu hymweliad â Chymru. 

Fel rhan o'u hwythnos yma, rhoddwyd y cyfle i fyfyrwyr sy'n astudio gradd Chwaraeon ac Ymarfer Corff y Brifysgol gael profiad gyda'r tîm drwy gwblhau lleoliad gwaith er mwyn ychwanegu at eu profiad dysgu.

Meddai Huw Bevan, Cyfarwyddwr Perfformiad yr USA Falcons:

“Hoffwn i ddiolch i Brifysgol Abertawe am ein caniatáu ni i ddefnyddio ei chyfleusterau, i'r Athro Liam Kilduff am ein cynorthwyo wrth recriwtio myfyrwyr, ac i'r myfyrwyr a fu'n ein cynorthwyo, sef Rosie Newman, Gwellaouen Labriere, Charlie Rowley a James Forsyth, a oedd yn destun balchder i'r Brifysgol.

“Roedd tîm y Falcons yn cynnwys chwaraewyr a staff sydd yn y DU yn bennaf. Mae hyn yn golygu ein bod ni'n dibynnu ar lai o staff nag y byddem fel arfer ar gyfer cynulliadau tîm. Roedd cael cyfle i ddefnyddio'r myfyrwyr o Brifysgol Abertawe i roi cymorth mewn sawl rôl, o gymorth logistaidd i gryfder a chyflyru a Gwyddor Chwaraeon yn hynod fuddiol i'r tîm. Roedd y ffaith bod yr wythnos wedi mynd rhagddi mewn modd mor hwylus, a'n bod ni wedi gallu creu amgylchedd hyfforddiant ardderchog i'r chwaraewyr, yn deillio o aeddfedrwydd ac agwedd broffesiynol y myfyrwyr dan sylw.”

Meddai Liam Kilduff, Athro ym Mhrifysgol Abertawe:

“Mae cynnal hyfforddiant yr USA Falcons yma yn y brifysgol am wythnos yn dangos bod gennym gyfleusterau chwaraeon o'r radd flaenaf yma. Yn ogystal, rydym yn ymfalchïo mewn datblygu myfyrwyr sydd â'r sgiliau craidd i weithio mewn amgylchedd chwaraeon elît ac mae'r lleoliad gwaith hwn wedi gwella'r gweithgarwch dysgu hwn i'n myfyrwyr. 

“Rwy'n gwybod ar ôl siarad â'r myfyrwyr bod y profiad yn amhrisiadwy o ran rhoi rhai sgiliau gwyddor chwaraeon craidd ar waith mewn amgylchedd chwaraeon elît a dysgu drwy weithio ochr yn ochr ag ymarferydd proffesiynol fel Huw.”

Meddai James Forsyth, myfyriwr trydedd flwyddyn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Abertawe:

“Rhoddodd y lleoliad gyfle i mi gael profiad ymarferol o'r pethau rwyf wedi'u dysgu mewn darlithoedd a labordai a sut mae'r wybodaeth hon yn cael ei defnyddio mewn amgylchedd elît yn y byd go iawn. 

“Rwyf bob amser wedi eisiau gweithio ym maes perfformiad elît ac mae bod yn rhan o'r amgylchedd hwnnw a deall y rolau a'r cyfrifoldebau wedi rhoi syniad i mi o'r hyn rwyf eisiau ei wneud. Hefyd, rhoddodd y profiad sgiliau a chysylltiadau i mi a fydd yn fantais ar ôl graddio.”