SPEX students in Spain

Students attend Europe's largest Sports Science Conference in Spain

Ym mis Awst, teithiodd grŵp o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig a staff academaidd o Brifysgol Abertawe i Sevilla, Sbaen, i ddathlu 27ain gyngres Coleg Gwyddor Chwaraeon Ewrop (ECSS).

Y thema eleni oedd "Gwyddor Chwaraeon yng Nghalon y Celfyddydau" ac roedd yn canolbwyntio ar gyflwyno model newydd o gyngres, yn ogystal â chynnal panel rhyngwladol o arbenigwyr, gan ddod â gwybodaeth arbenigol am ffisioleg, maetheg, biofecaneg, meddygaeth chwaraeon a llawer mwy, lle cyflwynodd yr ymchwilwyr mwyaf blaenllaw yn y diwydiant ganfyddiadau ymchwil o'r radd flaenaf ynghylch eu pynciau, a rhannu eu profiadau.

Cafodd nifer o fyfyrwyr o Brifysgol Abertawe gyfle i gyflwyno eu gwaith, a oedd yn eu galluogi i feithrin a gwella eu sgiliau a'u profiad a'u rhwydweithiau a dysgu gan arbenigwyr.

Meddai Dr Shane Heffernan, Uwch-ddarlithydd mewn Ffisioleg Foleciwlaidd a Maetheg ym Mhrifysgol Abertawe:

"Mae Dr Mark Waldron a minnau'n teimlo bod cyflwyno ac amddiffyn eu gwaith mewn cynhadledd ryngwladol yn ystod eu cyfnod ôl-raddedig yn rhan bwysig o ddatblygiad ein myfyrwyr ymchwil. Mae'n cynrychioli mecanwaith arall iddyn nhw (ac i ni) ddatblygu fel ymchwilwyr a meddylwyr annibynnol. Eleni yn yr ECSS yn Sevilla, cyflwynodd nifer o'n myfyrwyr ymchwil ac roeddent yn wych wrth gynrychioli A-STEM a Phrifysgol Abertawe. Roedd eu timau goruchwylio'n falch iawn ohonynt!"

Gan siarad am eu hamser yn y gynhadledd, gwnaeth myfyrwyr Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prifysgol Abertawe rannu eu profiadau:

Erwan Izri, gardiau ceg ar gyfer monitro cyfergyd:

"Mae'r cyfle i gyflwyno ychydig o’n gwaith a wnaethom ym Mhrifysgol Abertawe ar blatfform rhyngwladol yr haf hwn wedi bod yn fuddiol iawn. Mae wedi rhoi cyfle i mi gyfleu ein hymchwil i gynulleidfa ehangach, derbyn adborth a dilysiad defnyddiol am ansawdd ein gwaith gan arbenigwyr yn y maes. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at barhau â'm hastudiaethau ym Mhrifysgol Abertawe a chael rhagor o gyfleoedd fel hyn yn y dyfodol. Diolch i Lywodraeth Cymru a Sports and Wellbeing Analytics am eu cefnogaeth."

Jenny Peel, Maetheg a Ffisioleg Thermol:

"Mae hi wedi bod yn wych cyflwyno yn fy nghynhadledd gyntaf ac rwy' wedi cael profiad mor blese-rus! Mae gweld gwaith pobl eraill wedi fy ysbrydoli, ac mae wedi fy ysgogi i ailgydio yn fy ngwaith fy hun wedi i ni gyrraedd yn ôl."

Georgia Scott, Ystadegau Perfformiad Rygbi elît:

"Mae ef wedi bod yn brofiad gwych cael rhannu ein hymchwil mewn cynhadledd am y tro cyntaf a chael gweld ymchwil mor amrywiol ac ysbrydoledig o bedwar ban byd hefyd. Diolch i glwb rygbi'r Gweilch am eu cefnogaeth."

Joe Page, Astudiaeth OMNIPLaNT:

"Rwyf wir wedi mwynhau cael y cyfle i rannu ychydig o'm gwaith yn yr ECSS eleni. Roedd yn brofiad anhygoel bod yn bresennol, ond hefyd y cyfle i rwydweithio a chwrdd ag amrywiaeth eang o acade-myddion. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fynd yn ôl i'r labordai a pharhau a'm hymchwil nawr."